Stadiwm y Mileniwm
Fe fydd Stadiwm y Mileniwm yn cynnal wyth o gemau yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd yn 2015.

Bydd Cymru’n chwarae dwy o’u gemau yn y stadiwm, ac fe fydd pedair gêm grŵp a dwy gêm rownd yr wyth olaf yn cael eu cynnal yno.

Mae’n un o 13 o gaeau fydd yn cael eu defnyddio yn ystod y gystadleuaeth.

Bydd y gystadleuaeth yn agor gyda gornest rhwng Lloegr ac un o dimau Oceania yn Twickenham ar nos Wener, Medi 18.

Bydd Cymru’n teithio i Loegr ar gyfer un o ornestau mwyaf y twrnamaint, ac fe fyddan nhw hefyd yn wynebu Awstralia yn Llundain.

Bydd un o’u gemau’n cael ei chynnal ganol yr wythnos, ond does dim cadarnhad o’r gwrthwynebwyr eto.

Bydd gemau eraill yn y twrnamaint hefyd yn cael eu cynnal yn y Stadiwm Olympaidd a Wembley.