Leighton Andrews
Bydd nifer o brosiectau cymunedol i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ym Mro Morgannwg yn rhannu grant gwerth £30,000.

Nod y grant yw helpu plant a theuluoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth wneud gweithgareddau yn y gymuned.

Mae disgwyl i nifer o glybiau a chyrsiau gael eu sefydlu er mwyn hybu cyfleoedd i siarad Cymraeg.

Menter Caerdydd fydd yn gyfrifol am gynnal y prosiect, sy’n cael ei ariannu fel rhan o gyllid o £3.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn 2013-14.

Bydd Mentrau Iaith, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd hefyd yn elwa o’r cyllid.

‘Cryfhau safle’r iaith yn y gymuned’

Wrth gyhoeddi’r grant, dywedodd y  Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews: “Mae’n strategaeth iaith, Iaith fyw: iaith byw, yn pennu’n hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith yn y gymuned ac yn eu bywydau bob dydd.

“Bydd y £30,000 rwy’ wedi’i ddyrannu i’r ddarpariaeth newydd hon yn rhoi cyfleoedd i drigolion Bro Morgannwg ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol ac yn cryfhau safle’r iaith yn y gymuned.

“Mae’r iaith yn perthyn i bob un ohonom, ac mae gan bawb rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau eu bod yn ffynnu ar lawr gwlad. Rwy’n annog pawb sy’n siarad Cymraeg, neu sydd â diddordeb mewn dysgu, i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn.”

‘Galw clir am sefydlu mwy o wasanaethau’

Dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Siân Lewis: “Mae bron 11% o boblogaeth Bro Morgannwg yn siarad Cymraeg yn rhugl ac mae galw clir am sefydlu mwy o wasanaethau i blant, pobl ifanc ac oedolion allu defnyddio’u sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ysgol ac oriau gwaith.

“Rydyn ni’n bwriadu gweithio’n agos gyda phartneriaid lleol yn ogystal â’r awdurdod lleol er mwyn hwyluso hyn a sicrhau bod yr iaith yn rhan ganolog o bob cymuned yn y Fro.”