Mark Bridger yn y llys
Cafwyd hyd i waed April Jones ac olion o esgyrn yng nghartref y dyn sydd wedi ei gyhuddo o’i llofruddio, clywodd achos llys heddiw.

Mae Mark Bridger, 47, o Geinws ym Machynlleth yn gwadu cipio a llofruddio’r ferch 5 oed ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Wrth agor yr achos heddiw yn Llys y Goron yr Wyddgrug, dywedodd Elwen Evans QC ar ran yr erlyniad bod yr olion gwaed yn cynnwys DNA April Jones.

Fe ddiflannodd y ferch ysgol  ger ei chartref ym Machynlleth ar 1 Hydref.

Dywedodd Elwen Evans bod Bridger wedi “chwarae gem greulon wrth gymryd arno nad oedd yn gwybod beth oedd wedi ei gwneud iddi, a gyda hi, er mwyn ceisio achub ei hun.”

‘Cymhelliad rhywiol’

Clywodd y llys bod deunydd ar gyfrifiadur Mark Bridger, gan gynnwys delweddau rhywiol o blant, a lluniau o blant lleol, yn dangos bod ganddo gymhelliad rhywiol a diddordeb mewn achosion am lofruddiaethau plant.

Cafodd y rheithgor eu rhybuddio y bydd yn rhaid iddyn nhw weld rhai o’r delweddau.

Clywodd y rheithgor hefyd bod Mark Bridger wedi gwneud ymdrech fawr i lanhau ei gartref, gan gynnwys cael gwared a chorff a dillad April, ond mae’n debyg na lwyddodd i gael gwared a’r dystiolaeth i gyd.

Cafwyd hyd i olion gwaed yn yr ystafell fyw, y cyntedd a’r ystafell ymolchi.

‘Damwain’

Dywedodd Elwen Evans wrth y llys bod esgyrn wedi eu darganfod mewn llosgydd yn ei gartref tebyg i olion a fyddai’n perthyn i benglog plentyn, yn ôl arbenigwyr.

Dywed yr erlyniad bod Mark Bridger yn honni ei fod wedi taro April gyda’i gar Land Rover, a’i fod wedi ei rhoi yn y car er mwyn cael help meddygol iddi “er nad oedd, mewn gwirionedd, wedi gofyn am help gan unrhyw un.”

Honnodd ei fod wedi gyrru o gwmpas Machynlleth ac wrth iddo yrru, ei fod wedi anghofio beth ddigwyddodd.

Mae’n gwadu mynd ag April i’w gartref ac o’i cham-drin yn rhywiol.

Galwad 999

Clywodd y rheithgor prynhawn ma alwad 999 gafodd ei gwneud i adrodd am ddiflaniad April. Gellid clywed llais dynes yn dweud: “Mae fy merch wedi cael ei chipio.”

Roedd mam April, Coral Jones, i’w chlywed yn llefain yn uchel yn y cefndir yn ystod yr alwad.

Clywodd y llys bod April yn dioddef o barlys yr ymennydd ond nad oedd hynny wedi ei hatal rhag byw “byw bywyd llawn”.

Roedd hi wedi bod i’r ysgol, yn nofio yn y ganolfan hamdden leol ac yn chwarae ar ei beic ar y diwrnod y diflannodd.

Yn gynharach heddiw, roedd Elwen Evans wedi rhybuddio’r rheithgor bod yr achos “yn debygol o ennyn emosiynau cryf.”

Fe fydd y rheithgor yn ymweld â sawl safle ym Machynlleth ddydd Iau.

Roedd rhieni April, Paul a Coral Jones yn y llys heddiw ar gyfer y broses o ddewis y rheithgor o naw menyw a thri dyn.

Cafodd yr achos ei ohirio tan yfory.