Ddydd Llun bydd Cwmni’r Frân Wen yn mynd ar daith gyda chyfieithiad o ddrama Andy Manley, WHITE.

Cynhyrchiad i blant a theuluoedd yw GWYN, sydd wedi ei chyfeithu i’r Gymraeg gan Angharad Thomas. Mae’r ddrama wedi profi’n llwyddiant ysgubol o amgylch theatrau Ewrop ac wedi ennill gwobr y Sioe Orau ar gyfer Plant a Phobl Ifanc, Theatre Awards UK 2011.

Yn y ddrama, bydd Bryn Fôn a Rhodri Sion yn cyflwyno plant i fyd prydferth gwyn lle mae lle i bopeth a phopeth yn ei le – nes i liw ymddangos am y tro cyntaf.

“Mae GWYN yn berfformiad hudolus braf, sy’n cynhesu’r galon!” meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen.

“Gwelais y perfformiad am y tro cyntaf yng Nghynhadledd Theatr Plant a Phobl Ifanc Copenhagen yn 2011. Cefais fy nhgyfareddu gan ddyfnder emosiynol y cynhyrchiad. Mae ei ddelweddau, cymeriadau, cerddoriaeth a’i ddiweddglo trawiadol yn parhau’n fyw yn fy nghof”

Bryn ar ben ei ddigon

Mae Bryn Fôn wedi bod yn action ar lwyfannau Cymru ers yr 1970au ond mae’n credu bod cyflwyno’r ifanc i fyd theatr am fod yn brofiad gwahanol.

“I actor all dim gystadlu â bod ar lwyfan , mae’r adrenalin rush yn heintus . Rydach chi’n gallu gweld a chlywed ymateb y gynulleidfa yn syth, er rhaid i mi ddweud , beryg ein bod ni ar fin perfformio i’r gynulleidfa anodda’ un!

“Bydd rhai mae’n debyg yn cael eu profiad cyntaf o theatr, mae’r cyfrifoldeb o sicrhau fod y profiad hwnnw yn un pleserus yn llethu dyn. Fe all hyn ddylanwadu ar sut y byddant yn meddwl am theatr am byth …brawychus!”

Bydd GWYN yn mynd ar daith rhng 29 Ebrill a 7 Mehefin.  Gallwch archebu tocynnau drwy ffonio Cwmni’r Frân Wen ar 01248 715 048.