Fe fydd un o ffigurau amlyca’r byd teledu Cymraeg yn dweud fod peryglon a chyfleon i ddiwylliannau llai ym myd y cyfryngau modern.

Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol cwmni cynhyrchuTinopolis o Lanelli, fydd yn rhoi prif araith yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd sy’n agor heno yn Abertawe.

Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys sesiwn gyda chyfarwddwr drama Sgandinafaidd a sgwrs gyda cymysgydd sain sydd wedi gweithio ar rai o ffilmiau mawr Hollywood.

Chwyldro

“Yr hyn yr ’yf fi am siarad amdano yw sut mae realiti chwyldro globaleiddio’r cyfryngau yn gosod peryglon a rhywfaint o gyfleoedd i  ddiwylliannau llai,” meddai Ron Jones wrth  Golwg360.

“Mae cyrff newydd yn y diwydiant yn dod o gefndir technolegol yn hytrach nag o gefndir cynnwys confensiynol felly fe fydda i’n rhoi cyd-destyn i sesiynnau yr ŵyl a chodi cwesiynnau am gynhyrchu cynnwys.”

Y newid mawr sydd i’w weld yn y cyfryngau  ar hyn o bryd a’r sialensau y mae hynny’n ei  roi i gwmniau cynhrychu a darlledwyr llai yw un o brif themâu’r ŵyl sy’n cael ei chynnal am y 33fed tro eleni.

Yr her I Radio Cymru

Ac mae disgwyl araith bwysig hefyd gan bennaeth BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, sy’n wynebu cwymp yn nifer gwrandawyr Radio Cymru.

Mae disgwyl iddo yntau sôn am y sialens sy’n wynebu gorsafoedd o’r fath wrth i batrymau siaradwyr yr iaith newid.

Mae hefyd yn debyg o godi cwestiynau am rai o’r uniongrededd sydd wedi siapio darlledu yn yr iaith Gymraeg.

Cyfarwyddwr The Killing

Mae un sesiwn drafod, sydd wedi ei noddi gan S4C, yn holi sut mae mynd tu hwnt i’r iaith a denu cynulleidfa ifanc a bydd digwyddiad arall gyda chyfarwyddwr y ddrama sgandinafaidd The Killing, Birger Larsen, hefyd yn edrych ar iaith a sut mae’r ddawn o ddweud stori yn gallu goresgyn hynny.

Mae’r we hefyd yn newid hinsawdd y diwydiant a bydd cyfarwyddwr Dabster Productions, Richard Melvin, yn edrych ar y berthynnas newidiol rhwng y rhyngrwyd a darlledwyr.

Gweddill yr ŵyl

Fe  fydd sgwrs gyda Peter Devlin sydd wedi cael ei enwebu am Oscar am ei waith ar ffilmiau Star Trek, Transformers, Pearl Harbour a Transformers: Dark Side of the Moon.

Fe fydd Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn News International, hefyd yn trafod yr  heriau i ieithoedd lleiafrifol y byd ym myd cyflym gasglu newyddion.

Ac fe fydd S4C a BBC Cymru yn cystadlu am rai o brif wobrau’r ŵyl.

“Ar yr ochr mwynhad, beth sy’n dod allan o’r ŵyl yw cael y cyfle i weld ambell darn o waith fydden ni ddim yn ei weld fel arall. Mae tueddiad da ni i fod yn ynysig a dy’n ni ddim yn gweld y cynnyws fel arfer,” meddai Ron Jones.