Christopher Salmon
Mae Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys yn chwilio am ddirprwy.

Cafodd y Ceidwadwr Christopher Salmon ei ethol yn Gomisiynydd yn yr etholiadau ym mis Tachwedd ac mae’n chwilio am gyd-weithiwr i graffu ar waith yr heddlu.

Dywedodd fod yr apwyntiad yn un gwleidyddol a thra bod teyrngarwch i’r Ceidwadwyr ddim yn amod mae’n rhaid i’r dirprwy rannu amcanion y Comisiynydd.

Mae Christopher Salmon, sy’n gyn-swyddog gyda’r fyddin ac yn dod o Lanandras ym Mhowys, yn cynnig cyflog o rhwng £45,000 a £58,000 i’w ddirprwy.

“Bydd y Dirprwy Gomisiynydd yn rhannu fy ngweledigaeth a fy mrwdfrydedd dros wella heddlua ac atal torcyfraith,” meddai.

“Bydd ganddo ef neu hi ddychymyg a brwdfrydedd.”

Roedd penderfyniad y Ceidwadwyr yn San Steffan i sefydlu swyddi Comisiynwyr yr Heddlu yn un dadleuol ond dywedodd Christopher Salmon fod y swydd wedi arbed arian i Heddlu Dyfed Powys.

Mae gan y Comisiynydd gyllideb o £794,000 yn 2013-14, sy’n ostyngiad ar y £943,000 oedd gan yr hen Awdurdod Heddlu yn 2011-12 medd Christopher Salmon.