Verona Llun: Ceri Griffith
Mae’r cwmni awyrennau rhyngwladol Monarch wedi cynnig i dair ysgol ledled Prydain fynd ar daith ysgol dra wahanol, a merch o’r Felinheli fydd yn eu harwain.

Heddiw, fe fydd y cwmni yn lansio prosiect a fydd yn rhoi’r cyfle i 600 o blant, hyd at 200 o bob ysgol, deithio i Verona yn yr Eidal, Friedrichshafen yn yr Almaen, a Dubrovnik yng Nghroatia. Bydd y teithiau undydd yn cynnwys gweithdy actio, gwers hanes neu wers ieithyddol ar yr awyren ac yna bydd cyfle i ymweld â safleoedd enwog yn y dinasoedd.

Tra’n hedfan bydd Ceri Griffith yn un o’r criw fydd yn cynnal gweithdai actio ar yr awyren.

Dywedodd: “Mi fydd o’n grêt rhoi cyfle i’r plant ddysgu r’wbath tu allan i’r dosbarth a chael mynd i weld yr union betha’ y byddwn ni’n drafod ar yr awyren.”

Bydd y daith i Verona yn canolbwyntio ar ddrama Shakespeare, Romeo a Juliet.

“Mi fyddwn ni mewn gwisg Shakespearaidd ar yr awyren ac yn mynd o gwmpas Verona ac yn  ymweld â’r hen amffitheatr i gael awyrgylch y ddrama,” meddai Ceri Griffith.

Astudiodd Ceri yng ngholeg actio Mountview, Llundain a thrwy ei chysylltiadau yn y ddinas y daeth hi i glywed am y prosiect newydd: “Dd’oth un o’n ffrindiau ata’ i a dweud ei fod yn dechrau cwmni yn arbennig i hyn a chynnig i mi ymuno.”

Mae’r cynllun yn targedu plant ysgol 11-14 oed yn y gobaith o ddod a phrofiadau bythgofiadwy i mewn i ddysgu.

“Mi fydd y gweithdai yn cael eu ffilmio a phwy a ŵyr, ella y g’neith ‘na gwmni arall hoffi’r syniad a’i fabwysiadu,” meddai Ceri.

Stori: Gwenllian Elias