Hywel Gwynfryn
Mae’r darlledwr Hywel Gwynfryn wedi dweud wrth Golwg360 y gallai ‘mabwysiadu’ dysgwyr helpu i wyrdroi canlyniadau siomedig y Cyfrifiad diweddaraf.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae 20,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru nag yn 2001.

Bu Hywel Gwynfryn yn hyrwyddo’r cynllun ‘Adopt a Dysgwr’ sy’n gofyn i Gymry Cymraeg gofrestru i dreulio awr yr wythnos yn cefnogi dysgwyr yn eu hymgais i ddysgu’r iaith.

Dywedodd: “Ar ôl cyhoeddi canlyniadau’r Cyfrifiad, roedd tipyn o drafod am beth oedd Llywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith yn mynd i’w wneud am y peth.

“Ond y cyfan fedrwn i ei feddwl oedd, be fedra i wneud?”

Cafodd y syniad o greu’r cynllun ar ôl bod yn sgwrsio â chymydog di-Gymraeg oedd yn dymuno dysgu Cymraeg.

“Fe ddywedais i wrtho fo: ‘Wna i’ch mabwysiadu chi’, a dyna ddechrau’r ymgyrch.

“Petai pawb sy’n siarad Cymraeg yn mabwysiadu un person, fe allech chi wneud gwahaniaeth mawr i’r niferoedd.

“Trwy gael 20,000 o bobol i ddysgu’r Gymraeg, rydach chi’n adennill y niferoedd gafodd eu colli.”

Sgwrsio dros beint neu goffi

Ychwanegodd: “Y cyfan sydd angen yw sgwrsio am awr yr wythnos dros beint neu goffi.

“Mae’n cynnig hyblygrwydd oherwydd nid pawb sy’n gallu ymrwymo i dreulio awr benodol bob wythnos mewn dosbarth Cymraeg.”

Ar ôl sefydlu’r cynllun, mabwysiadodd Hywel Gwynfryn ddysgwraig 25 oed, Rosie Gleeson, sy’n gweithio yng Nghanolfan Chapter yng Nghaerdydd.

“Pan wnes i ei mabwysiadu hi roedd ganddi rywfaint o Gymraeg llyfr, sylfaenol, ond roedd hi’n gallu cynnal rhywfaint o sgwrs hefyd, ac yn gallu gwasanaethu cwsmeriaid yn y ganolfan.”

Cafodd Rosie Gleeson ei magu yng Nghymru gan rieni di-Gymraeg, ac roedd hi wedi cael ychydig o wersi yn yr ysgol.

Ar ôl dechrau dod i adnabod Rosie, sylweddolodd Hywel Gwynfryn fod ganddi ddiddordeb ym marddoniaeth.

“Roedd hi’n barddoni ychydig ac yn darllen llyfr barddoniaeth i blant gan Mererid Hopwood, ac roedd hynny’n sail i sgwrs wedyn.”

Say Something in Welsh

Eisoes, mae bron i 400 o bobol o bob rhan o’r byd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun fydd yn paru Cymry Cymraeg gyda dysgwyr.

Y gobaith yn y pen draw yw cysylltu’r cynllun i wefan ‘Say Something in Welsh’, lle mae 25,000 o bobol o bob rhan o’r byd yn dod i sgwrsio dros y we yn Gymraeg.

Fe fydd modd i ddysgwyr gael 30 o wersi Cymraeg yn rhad ac am ddim trwy’r safle.

Dywedodd Hywel Gwynfryn: “Mae hynny’n dibynnu ar ewyllys da pobol.

“Rwy’n teimlo’n gryf iawn mai’r we ydi’r ffordd ymlaen i’r Gymraeg erbyn hyn.

“Chi sy’n creu eich amserlen eich hun ar gyfer gwylio a gwrando ar raglenni dros y we, ac mae’r un yn wir am wersi Cymraeg anffurfiol fel hyn. Dyna ydi bwriad y wefan http://docs.google.com/forms/d/1v0PiLzWjlzw0YjKAwiAyM2DjOQb8S7OwkqknXFkiXog/viewform?pli=1 mewn gwirionedd.

“Mae gwersi Cymraeg mewn dosbarthiadau’n iawn, ond nid pawb sy’n gallu ymrwymo’n gyson iddyn nhw. Ond gall unrhyw un fod yn athro hefyd.

“Mae unrhyw un sy’n gwybod mwy na’r person yn ei gwmni am ryw bwnc arbennig yn gallu bod yn athro.”