Dr Eleri Pryse gyda Dr Hefin Jones
Mae’r ffisegydd Dr Eleri Pryse wedi cael ei phenodi yn gadeirydd newydd bwrdd golygyddol cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ‘Gwerddon’.

Bydd Dr Pryse yn olynu Dr Hefin Jones, yr ecolegydd, fel Cadeirydd y cyfnodolyn ac  yn  cyd-weithio’n agos gyda’r golygydd, yr Athro Ioan Williams a’r is olygydd, Dr Hywel Griffiths.

Mae Eleri Pryse yn ddarllenydd Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn gyfrifol am gydlynu’r addysgu cyfrwng Cymraeg yn Sefydliad Mathemateg a Ffiseg.

Dywedodd Dr Pryse: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr her o olynu Dr Hefin Jones fel Cadeirydd y Bwrdd Golygyddol ac yn diolch iddo am ei gyfraniad aruthrol i gynnydd y cyfnodolyn. Gyda’r buddsoddiad mewn ysgolheictod cyfrwng Cymraeg oherwydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, hyderaf y bydd ‘Gwerddon’ yn mynd o nerth i nerth ac y bydd ymchwilwyr Cymraeg yn manteisio ar gyfleon cyhoeddi o’r fath”.

‘Caffaeliad mawr’

Dywedodd Dr Hefin Jones y byddai Dr Pryse yn “gaffaeliad mawr i’r prosiect.”

“Bu’n fraint cael gweithio ar brosiect cyffrous fel ‘Gwerddon’ ac felly mae’n brofiad chwerw-felys cael trosglwyddo’r awenau i Dr Eleri Pryse. Fel un sydd wedi bod yn addysgu ac yn ymchwilio drwy’r Gymraeg ers blynyddoedd a hynny mewn maes heriol tu hwnt, bydd Dr Pryse yn gaffaeliad mawr i’r prosiect.”

Bydd Dr Eleri Pryse yn dechrau’n swyddogol fel Cadeirydd Gwerddon ar 1 Awst eleni.