Yfory fe fydd David R Edwards o’r band seminal Datblygu yn rhan o ddigwyddiadau i hyrwyddo siopau recordiau annibynnol.

Mae Diwrnod Siopau Recordiau yn bwysicach i’r diwydiant na chyfnod prysur y Nadolig, yn ôl un dyn sy’n gweithio mewn siop recordiau yng Nghymru.

Dechreuodd Diwrnod Siopau Recordiau yn 2007 pan benderfynodd dros 700 o siopau recordiau annibynnol yn yr Unol Daliaethau ddod at ei gilydd i ddathlu eu diwylliant unigryw.

Dechreuodd siopau Ynysoedd Prydain wneud yr un fath y flwyddyn ganlynol ac yfory fydd y chweched diwrnod o’r fath i ddathlu’r siopau annibynnol.

Mae gan siop recordiau’r Tangled Parrot yn Nghaerfyrddin ddigwyddiadau trwy’r dydd gan gynnwys David R Edwards o Datblygu yn darllen geiriau ei ganeuon.

“Yn ystod y dydd, mae gennym ni fandiau a DJ’s yn chwarae yn y siop,” meddai Simon Tucker o’r Tangled Parrot.  “Ac yna, gyda’r nos, fe fyddwn ni’n cynnal gig ac yn rhoi gwahoddiad i bobl ddod a’u hoff recordiau gyda nhw i gael eu chwarae yn y noson.”

Pwysicach na’r Nadolig

Ond yn ogystal â’r miri, mae Diwrnod Siopau Recordiau yn bwysig i fusnesau bach fel y Tangled Parrot.

“Mae dyddiau fel hyn yn hanfodol ac mae Diwrnod Siopau Recordiau yn fwy o beth i i ni o ran gwerthiant na’r Nadolig,” meddai Simon Tucker.

Mae Dyl Mei yn gerddor ac yn gasglwr sydd yn berchen ar oddeutu 4,000 o recordiau. Mae’n meddwl bod diwrnod fel hyn yn bwysig i ffans cerddoriaeth hefyd.

“Mae o’n gwneud i chdi sylweddoli colled siop fel Cob Records yn Bangor, ond hefyd mae o’n tynnu sylw at siopau bach annibynnol ac yn dangos bod bod mwy i gerddoriaeth na’r deg CD mae’n nhw’n ei werthu yn Tesco.”

Rhyddau recordiau arbennig

Yn ogystal â’r digwyddiadau mae cwmnïau recordio hefyd yn rhyddhau recordiau arbennig ar gyfer y diwrnod gydag ailgymysgiad gan Soulwax o Blur, a record lliw o’r albwm Eliphant gan The White Stripes ymysg y recordiau fydd yn cael eu rhyddhau yfory.

Dyma gyfle iddyn nhw roi rhywbeth yn ôl i’r bobl sy’n prynu cerddoriaeth drwy’r flwyddyn, meddai Dyl Mei.

“Mae o’n gyfle i gasglwyr a ffans cerddoriaeth iawn gael gwobr gan y cwmnïau recordiau. Yr unig bechod ydy mai un diwrnod ydy o ac mae 80% o bobl yn mynd i anghofio am y siopau bach yma yn gyflym iawn wedyn.”

A chyda criw y Tangled Parrot wrthi’n gwneud y paratoadau olaf cyn yfory, mae Simon Tucker yn dweud bod mwy i’r diwrnod na gwerthiant yn unig.

“Er mor dda ydy’r diwrnod i ni, nid y gwerthiant yw popeth. Mae awyrgylch y diwrnod yn wych ac rydym ni wastad yn ennill cwsmeriaid newydd sy’n darganfod recordiau trwy’r Diwrnod Siopau Cerddoriaeth.”

Stori: Ciron Gruffydd