Ieuan Wyn Jones
Mae AC Ynys Môn Ieuan Wyn Jones wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i sicrhau prynwr ar gyfer lladd-dy Welsh Country Foods yn y Gaerwen.

Cafodd y lladd-dy ei gau wythnos diwethaf ar ôl i’r perchnogion, Vion, fethu â chael prynwyr iddo gan olygu bod 310 o weithwyr yn colli eu swyddi.

Roedd dyfodol y ffatri wedi bod yn ansicr ers dechrau’r flwyddyn ar ôl i’r cwmni golli cytundeb gyda chwmni archfarchnad Asda.

Bu Ieuan Wyn Jones yn cyfarfod y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Edwina Hart AC i wthio’i ddadl.

Dywedodd fod y lladd-dy nid yn unig yn darparu swyddi i bobl Môn, ond hefyd yn hanfodol i ffermwyr ar draws gogledd Cymru.

‘Ergyd drom’

“Mae cau Welsh Country Foods yn y Gaerwen yn ergyd drom nid yn unig i’r gweithlu ond hefyd i ffermwyr a fydd rŵan yn gorfod mynd â’u hanifeiliaid i Ogledd Orllewin neu Ganolbarth Lloegr i gael eu lladd. Bydd hyn yn gostus iddyn  nhw a hefyd yn ddrwg i’r amgylchedd.

“Fe’m calonogwyd gan ymrwymiad Edwina Hart i geisio dod o hyd i brynwr newydd. Roedd nifer o gwmnïau wedi dangos diddordeb mewn prynu’r lladd-dy ac rydw i wedi gofyn i’r Llywodraeth fynd yn ôl atynt.

“Mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gynnig cymorth gyda buddsoddiad yn y Gaerwen ac rydw i wedi gofyn iddyn nhw adael i mi wybod am unrhyw ddatblygiadau. Byddaf i’n gwneud popeth y gallaf i ganfod prynwr newydd.

“Mae Gaerwen yn safle strategol ac ni ellid caniatáu iddo fod ar gau am unrhyw gyfnod o amser. Credaf hefyd fod gan Vion gyfrifoldeb i’r gymuned leol i geisio sicrhau prynwr i’r safle.”