Stamp David Lloyd George
Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi y bydd cyn-Brif Weinidog Prydain, David Lloyd George ymhlith yr enwogion fydd yn ymddangos ar stampiau arbennig yn 2013.

Mae’r gyfres o stampiau’n coffáu enwogion o fyd newyddiaduraeth, cerddoriaeth, chwaraeon, y celfyddydau a gwleidyddiaeth fyddai wedi bod yn 100 neu’n 150 oed eleni.

Cafodd y Rhyddfrydwr Lloyd George, oedd yn hanu o bentref Llanystumdwy yng Ngwynedd, ei eni ar Ionawr 17, 1863.

Croesawodd Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, William Powell – y mae ei etholaeth yn cwmpasu Llanystumdwy – y cyhoeddiad gan y Post Brenhinol.

“Roedd David Lloyd George, heb amheuaeth, yn un o Brif Weinidogion gorau ein cenedl ni.

“Yn y flwyddyn sy’n nodi 150 mlynedd ei eni, mae’n briodol ei fod yn cael ei gynnwys ymhlith y fath unigolion anrhydeddus.”

Ymhlith y rhai eraill fydd yn ymddangos ar y stampiau mae’r cyfansoddwr clasurol Benjamin Britten, yr actores  Vivien Leigh a’r rheolwr pel-droed Bill Shankly.

Dywedodd llefarydd ar ran y Post Brenhinol: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni’n anrhydeddu rhai o bobol fwyaf anrhydeddus hanes Prydain trwy ein casgliad Stampiau Arbennig diweddaraf.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd y stampiau’n deyrnged hirdymor i’w cof nhw ac unwaith eto, yn annog pobol i gofio eu cyfraniad arwyddocaol i’r ffordd Brydeinig o fyw.”