Maes awyr Caerdydd
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu diffyg gweithgarwch Llywodraeth Cymru yn y broses o sicrhau gwasanaethau ychwanegol i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd.

Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru ar Fawrth 27 am £52 miliwn.

Roedd y gwrthbleidiau wedi dwyn pwysau ar Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart i gyflwyno gwasanaeth bws ar frys rhwng y ddinas a’r maes awyr.

Roedd disgwyl cyhoeddiad pellach gan Edwina Hart heddiw, ond does dim datblygiadau pellach hyd yma.

Daeth i’r amlwg heddiw fod llai nag 1 miliwn o deithwyr wedi defnyddio’r maes awyr y llynedd, o’i gymharu â 2 filiwn yn 2007.

‘Cyswllt bws yn hanfodol’

Dywedodd llefarydd busnes y Dems Rhydd, Eluned Parrott: “Mae’n ymddangos bod ychydig iawn o gynnydd wedi’i wneud ac os oes yna gynnydd, dydy’r Gweinidog ddim yn datgelu unrhyw beth.

“Ro’n i wedi gobeithio y byddai Edwina Hart yn prysuro cynlluniau hirdymor y Llywodraeth am wasanaeth bws wennol o Gaerdydd Canolog i’r Maes Awyr ond fel sy’n wir am nifer o ddyheadau eraill y Llywodraeth o ran trafnidiaeth, mae’n ymddangos fel pe bai wedi’i roi o’r neilltu.”

“Mae’r cyswllt bws hwn yn hanfodol. Bydd gwasanaeth bws o ansawdd uchel o Abertawe i Faes Awyr Bryste yn cael ei lansio’n fuan heb gymorth y trethdalwr.

“Mae wir angen i Lywodraeth Cymru ddechrau eu gwasanaeth a gafodd ei gyhoeddi gyntaf bron i bedair blynedd yn ôl, mor fuan â phosib.”

“Mae Edwina Hart wedi dweud ychydig iawn am sut y bydd y Maes Awyr a’i dîm rheoli newydd yn cydweithio gyda’r Parth Menter cyfagos, rhywbeth y sefydlodd hi ei hun.”

“Mae’r Dems Rhydd Cymreig wedi cefnogi goroesiad ein maes awyr ni ers amser hir ond mae’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ac yn bwysicach, ddim yn ei wneud yn peri pryder i bawb yng Nghymru.”

‘Angen edrych i’r dyfodol’

Ond mae llefarydd Plaid Cymru ar yr economi, Alun Ffred Jones wedi croesawu’r cyhoeddiad am gynllun busnes a gwerth am arian y maes awyr heddiw.

Dywedodd: “Roedden ni wedi gofyn am ragor o fanylion, ac rydyn ni’n falch eu bod nhw wedi cael eu darparu.

“Mae’r dystiolaeth yn awgrymu y bydd y ffaith fod mwy o deithwyr yn defnyddio’r maes awyr yn arwain at greu rhagor o swyddi.

“Dyma’n union pam y galwodd Plaid Cymru am weithredu’n gyflym i sicrhau bodolaeth y maes awyr yn y lle cyntaf.

“Gyda mater perchnogaeth bellach wedi’i sicrhau, rhaid i ni ganolbwyntio ar ddyfodol y cyfleuster.

“Dyna pam ein bod ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i lunio polisi awyr Cymreig, gan fanylu o ble hoffen ni weld cynnydd yn y teithwyr yn dod, a pha leoliadau y gallwn ni eu sicrhau yn realistig.

“Ein prif neges yw y gallwn ni wyrdroi ffortiwn y maes awyr erbyn hyn, fel ei fod yn rhoi hwb i’r economi yn y de a’i fod yn creu darlun positif i’r wlad gyfan.”