Leanne Wood
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi amddiffyn penderfyniad rhai Aelodau Cynulliad ei phlaid i beidio â bod yn bresennol yn y Senedd yn ystod y teyrngedau i’r Farwnes Thatcher heddiw.

Bu gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn rhoi teyrnged i’r cyn brif weinidog fu farw ar 8 Ebrill yn 87 oed.

Dywedodd Leanne Wood, fu’n bresennol yn ystod y teyrngedau, nad oedd ganddi broblem gyda safiad rhai o ACau ei phlaid gan gynnwys Simon Thomas, Dafydd Elis-Thomas a Bethan Jenkins.

“Rwy’n deall yn iawn fod yna deimladau cryfion ar ddwy ochr y ddadl.

“Fe fydd yna rai aelodau o Blaid Cymru sydd ddim yn teimlo’n gyfforddus bod yn bresennol  yn ystod y sesiwn lawn prynhawn ma ac mae ganddyn nhw berffaith hawl i hynny.

“Fel arweinydd Plaid Cymru mae’n ddyletswydd arna’i i gymryd rhan yn y sesiwn lawn lle mae arweinwyr yn dweud ychydig eiriau am ddylanwad Margaret Thatcher ar wleidyddiaeth Prydain.”

‘Dilyn trywydd San Steffan’

Wythnos diwethaf roedd Aelodau Seneddol wedi dychwelyd yn gynnar i Dy’r Cyffredin ar ôl y gwyliau Pasg er mwyn rhoi teyrnged i’r Farwnes Thatcher.

Ond dywedodd Simon Thomas ei bod hi’n anffodus fod y Cynulliad yn “dilyn trywydd San Steffanaidd” o gynnal sesiwn deyrnged i Margaret Thatcher.

Dywedodd AC canolbarth a gorllewin Cymru fod angen i’r Cynulliad “ganfod dull mwy addas o gydnabod mai hi oedd Prif Weinidog benywaidd cyntaf y Deyrnas Gyfunol, ond hefyd ei bod hi wedi gadael gwaddol anodd i’r Cynulliad wrth inni geisio ail-adeiladu cenedl.”

Ychwanegodd Bethan Jenkins AC nad oedd eisiau bod yn rhan o’r teyrngedau “mewn unrhyw ffordd”.

“Tra bod Mrs Thatcher wedi newid Prydain, nid oedd wedi ei hachub, fel mae rhai wedi honni. Fe newidiodd Cymru er gwaeth.”

Dywedodd mai Margareth Thatcher oedd wedi ei hysgogi i fod yn wleidydd “nid yn unig am fy mod i’n gwrthwynebu ei daliadau’n llwyr, ond am fy mod i hefyd wedi sylweddoli nad oedd hi’n ffeminydd.”

Teyrngedau

Y Prif Weinidog Carwyn Jones fu’n arwain y teyrngedau gan ddweud mai’r Farwnes Thatcher oedd y rheswm pam fod nifer o ACau wedi mynd i fyd gwleidyddiaeth – ond am resymau gwahanol.

Streic y glowyr oedd wedi ei arwain at yrfa wleidyddol, meddai Carwyn Jones.

Ond roedd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies yn mynnu bod Thatcher wedi gwneud llawer dros Gymru ac wedi trawsnewid economi’r DU.