Rhys Ifans
Mae cyfarwyddwr a phrif actor y ffilm eiconig Twin Town wedi dod nôl at ei gilydd ar gyfer ffilm ddogfen ar gyfer S4C.

Mae’r ffilm, gan Rhys Ifans a Kevin Allen, yn edrych ar ddylanwad y Gymraeg ar y bardd Dylan Thomas a bydd hi’n cael ei darlledu’r flwyddyn nesaf. Mae’r rhaglen Pethe heno yn rhoi rhagflas ohoni mewn cyfweliad rhwng yr actor Rhys Ifans, a fydd yn cyflwyno’r ffilm ddogfen, a Lisa Gwilym.

“Dwi’n ffan mawr o Dylan Thomas”, meddai’r actor o Ruthun a astudiodd gerddi’r bardd tra’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Maes Garmon, Yr Wyddgrug.

“Mae ei eiriau o’n dal yn fyw, a ddim yn hel llwch mewn amgueddfa.

“Mae darllen ei waith o yn dy godi di fel perfformiwr. Mae ’na gynghanedd yn ei waith o.”

Yn y ffilm ddogfen bydd Rhys Ifans yn holi a oedd Dylan ei hun yn siaradwr Cymraeg.

Gwreiddiol a diddorol

Bu Rhys a Kevin yn ffilmio yn Nhalacharn yn ddiweddar ac roedd criw Pethe yno ar leoliad er mwyn cael sgwrs gyda nhw. Bydd y cyfweliad i’w weld yn llawn ar y rhaglen heno (nos Lun) am 9.30yh.
Mae Comisiynydd Ffeithiol S4C, Llion Iwan, yn edrych ymlaen at weld Rhys Ifans a Kevin Allen yn cydweithio eto.

“Roedd cael cynnig dogfen gan Rhys Ifans a Kevin Allen yn archwilio dylanwad y Gymraeg ar waith Dylan Thomas yn faes gwreiddiol, a diddorol iawn,” meddai Llion Iwan.

“Mae’r ddau wedi gweithio gyda’i gilydd yn y gorffennol ar Twin Town, ac mae hwn yn broject yr oedden nhw yn awyddus iawn i’w daclo.

“Roedd yn gyfle unigryw i gael Rhys ar y sgrin yn trafod un o eiconau byd-enwog Cymru.

“A  golyga cefndir teuluol Kevin a’i allu fel cyfarwyddwr fod cyfuniad arbennig yma o dalent a gwybodaeth ar gyfer y ddogfen hon. Fedra’i ddim disgwyl i weld y ffilm.”