Huw Lewis, y Gweinidog Cymunedau
Fe fydd llais Hindwiaid yng Nghymru yn cael ei gryfhau heddiw, wrth i Gyngor Hindwiaid Cymru gael ei lansio yn y Senedd.

Nod y Cyngor newydd fydd hyrwyddo’r diwylliant a’r grefydd Hindwaidd, mynegi pryderon y gymuned Hindwaidd ar raddfa leol a chenedlaethol, a rhoi llais i Hindwiaid ymhlith crefyddau eraill yng Nghymru.

Mae 10,434 o Hindwiaid yn byw yng Nghymru, ac mae’r nifer wedi dyblu ers Cyfrifiad 2001.

Bydd y Gweinidog Cymunedau, Huw Lewis yn lansio’r Cyngor yn swyddogol.

‘Cymunedau amrywiol ac amlddiwylliannol’

Dywedodd: “Mae’r Gymru sydd ohoni heddiw yn gymdeithas sydd wedi’i hadeiladu ar gymunedau amrywiol ac amlddiwylliannol gyda phobol o lu o wahanol gefndiroedd a chanddyn nhw nodweddion a phrofiadau unigryw.

“Rwy’n credu’n gryf mai hyn sy’n gwneud Cymru’n genedl mor fywiog, ac rwy’n ymroddedig i wella ansawdd bywyd pawb yng Nghymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gydag aelodau’r Cyngor.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymunedau cryf ac integredig yn cynnig cyfleoedd i gymunedau gydweithio i fod yn wydn ac yn oddefgar.”

‘Llais i siarad ar ein rhan ni’

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Hindwiaid Cymru, Vimla Patel: “Rwy wrth fy modd fod Cyngor Hindwiaid Cymru wedi’i sefydlu gan fod gwir angen y sefydliad hwn.

“Mae yna demlau a grwpiau ledled Cymru ond hyd yma, dim un llais i siarad ar ein rhan ni.

“Bydd Cyngor Hindwiaid Cymru’n anelu at gynnig y llais hwnnw. Fe fydd hefyd yn hyrwyddo gwell dealltwriaeth o’r diwylliant a’r grefydd Hindwaidd.”

Yn ogystal, bydd gan y Cyngor ddau gynrychiolydd ar Fforwm Cymunedau Ffydd Llywodraeth Cymru.