Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn nesaf i wrthwynebu cynllun i godi 289 o dai yn ardal Rhydaman.
Mae’r cyfarfod yn rhan o ymgyrch Cymdeithas yr Iaith ‘Dwi eisiau byw yn Gymraeg’ yn Sir Gaerfyrddin, sy’n pryderu am effeithiau cynllun o’r fath ar y Gymraeg yn y sir.
Rhwng 2001 a 2011 fe ddisgynnodd y ganran sy’n siarad Cymraeg yn ardal Rhydaman a’r pentrefi cyfagos o 65.7% i 57.1%.
Er i’r cynllun i godi’r tai ym Mhenybanc ar gyrion y dref cael ei wrthod yn wreiddiol ym mis Rhagfyr, a hynny oherwydd pryderon am ei effaith ar y Gymraeg, fe waeth pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin ei gymeradwyo ddechrau’r mis yma.
Gyda dim ond 400 o dai ym Mhenybanc ar hyn o bryd, fe fyddai’r datblygiad newydd yn agos at ddyblu maint y pentref sydd yn ward Saron.
Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus am 11.30 fore Sadwrn nesaf yn Neuadd Les Penybanc ger Rhydaman.