Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru
Mae gan Gyngor Blaenau Gwent “broblemau hirsefydlog o ran diwylliant, perfformiad ac arweinyddiaeth” medd adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae’r gwendidau wedi cael effaith ar y modd mae’r Cyngor yn darparu gwasanaethau medd yr adroddiad, ac mae’r Cyngor yn “araf i fynd i’r afael â’i wendidau hirsefydlog.”

“Nid oes gan y Cyngor y gallu corfforaethol na’r berchenogaeth sydd eu hangen i herio ac ysgogi gwelliant yn gyson yng ngwasanaethau’r Cyngor,” medd Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy’n asesu gwaith awdurdodau cyhoeddus Cymru bob blwyddyn.

Yr ardal leiaf atyniadol o ran buddsoddi

Dywed yr adroddiad fod y dirwasgiad wedi cael effaith ar fywiogrwydd economaidd ardal ac mai Blaenau Gwent yw’r “ardal leiaf atyniadol o ran mewnfuddsoddi yn y DU” yn ôl Mynegai Cystadleurwydd y Deyrnas Gyfunol.

Mae’r archwilydd o’r farn fod y cydweithredu rhwng cynghorau Blaenau Gwent a Merthyr Tudful yn mynd i fod o fudd i Flaenau Gwent. Mae’r cyngor hefyd wedi bod yn cydweithio gyda chyngor Cansewydd ym maes addysg.

Defnydd o’r Gymraeg

O fewn yr adroddiad dywedodd Comisiynydd y Gymraeg fod y Cyngor yn gweithio tuag at gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar ei wefan ac ar gyfryngau cymdeithasol.

“Y flaenoriaeth i’r Cyngor ar gyfer y cyfnod nesaf fydd gwella sgiliau iaith Gymraeg staff drwy weithredu ei Strategaeth Sgiliau Iaith,” meddai Comisiynydd y Gymraeg.

Ymateb y cyngor

Mewn ymateb i’r adroddiad dywedodd  Hedley McCarthy fod yr adroddiad yn “asesiad clir o le mae’r cyngor yn perfformio’n dda ac yn darparu gwasanaethau gwell a hefyd ble mae angen i ni wella er budd cymunedau Blaenau Gwent.”

Dywedodd fod y cyngor yn cyflwyno gwelliannau corfforaethol mewn ymateb i’r adroddiad gan yr archwilydd.