Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio y bydd holl economi’r wlad yn diodde’ oherwydd y newidiadau mewn budd-daliadau.

Fe fydd busnesau bach yn sicr o ddiodde’, medda arweinydd y blaid, Leanne Wood, ar ôl ymchwil sy’n dangos y gallai pobol yng Nghymru golli mwy na £1 biliwn y flwyddyn.

“Mae llawer o deuluoedd sydd ar hyn o bryd yn ymdrechu i gadw eu pennau uwch ben y don yn cael eu taflu i ddyfnder tlodi,” meddai

“Hefyd, fe fydd effaith enfawr ar economi Cymru na fydd yn gallu goddef colli biliwn o bunnoedd heb i neb ddioddef.”

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Hallam yn Sheffield wedi asesu effaith yr holl newidiadau mewn budd-daliadau gan ddangos mai ardaloedd tlawd a fydd yn diodde’ fwya’.

“Cymru, ynghyd â’r Alban a gogledd Lloegr, fydd yn dioddef pen trymaf baich y toriadau i nawdd cymdeithasol,” meddai Leanne Wood.

Roedd llefarydd materion cymdeithasol y blaid yn Nhy’r Cyffredin, Hywel Williams, yn dweud bod yr ymchwil yn “ddamniol”.