Fe fydd Menter Caerdydd yn cynnal cyfarfod nos Lun i drafod y posibilrwydd o gyhoeddi fersiwn ar-lein o’r papur bro, Y Dinesydd.

Erbyn hyn mae’r papur yn codi ffi i’w brynu, ac mae nifer y darllenwyr wedi gostwng.

Er nad oes cynllun pendant ar gyfer fersiwn ar-lein eto, dywedodd Prif Weithredwr Menter Caerdydd, Sian Lewis y byddai’r safle ar y We yn ychwanegol i’r papur, ac yn targedu cynulleidfa wahanol.

Dywedodd: “Gwefan i’r bobol fydd hi, os bydd hi’n digwydd. Mae’r trafodaethau gyda bwrdd y papur bro eisoes wedi dechrau, ac rydyn ni wedi trafod gyda Sara Moseley o’r Ysgol Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.

“Mae’n bosib hefyd y cawn ni arian gan y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ar gyfer gwefan.

Dim son am gapeli ar y wefan

“Mae’r to hŷn yn dal am gael papur newydd, ac rydym yn gweld y ddau yn rhedeg ochr yn ochr,” ychwanegodd y Prif Weithredwr.

“Fe fydd gwybodaeth ar y We i’r bobol hynny nad ydyn nhw’n darllen y papur.

“Er enghraifft, chewch chi ddim erthyglau am gapeli ac ati ar y wefan.

“Menter wirfoddol yw hi ar hyn o bryd, a dim ond trwy gael cefnogaeth iddi y gall lwyddo.”

Mae Menter Caerdydd yn gobeithio lansio’r prosiect yn llawn ym mis Hydref i gyd-fynd â phen-blwydd y papur yn 40 oed.

Ond mae’n bosib y bydd y Fenter yn trefnu lansiad bach adeg gŵyl Tafwyl yn y Brifddinas ym mis Mehefin.

Cafodd yr ŵyl honno £20,000 o grant gan Lywodraeth Cymru, wedi i’r cyngor sir dddileu’r nawdd.