Leighton Andrews
Cynnal cynhadledd genedlaethol a sefydlu comisiwn i drafod sut i gryfhau sefyllfa’r iaith yn Sir Gâr yw rhai o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg dros y flwyddyn nesaf.
Fe fydd y pwyslais ar ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 meddai’r Llywodraeth wrth gyhoeddi Cynllun Gweithredu Strategaeth y Gymraeg heddiw.
Mae’r cynllun yn esbonio sut y bydd y Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews, yn rhoi’r cynigion sy’n cael eu disgrifio yn y Strategaeth ar waith dros y flwyddyn ariannol nesaf.
Mae ei brif ymrwymiadau’n cynnwys cynnal cynhadledd genedlaethol, Y Gynhadledd Fawr fel mae’n cael ei galw, yn yr haf i ofyn i bobl am eu barn am ddyfodol yr iaith a sefydlu Comisiwn i argymell sut i gryfhau sefyllfa’r iaith yn Sir Gâr.
‘Ymateb mewn ffordd adeiladol’
Dywedodd Leighton Andrews: “Daw’r cynllun gweithredu hwn ar ddiwedd blwyddyn arwyddocaol yn hanes y Gymraeg, a gynhwysai gyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2011.
“Rydym yn ymateb i’r canlyniadau hynny mewn ffordd adeiladol trwy barhau â’n Strategaeth. Y Cynllun Gweithredu yw’r cam nesaf i wireddu amcanion y strategaeth – sy’n cynnwys gweithredu ym mhob maes, o addysg i grantiau, o ddeddfwriaeth i ymchwil.
“Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu dyfodol y Gymraeg. Fodd bynnag, er mwyn i’n cynigion weithio, rhaid i bawb ysgwyddo’r cyfrifoldeb amdanynt a manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r iaith. Mae’n iaith unigryw sy’n eiddo i bawb ac mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae i’w chynnal.”
Mae Cynllun Gweithredu Strategaeth y Gymraeg i’w gweld yn: http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/welsh-language-strategy-action-plan-2013-14/?skip=1&lang=cy