Maes awyr Caerdydd
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol Bro Morgannwg, Alun Cairns wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i brynu Maes Awyr Caerdydd.

Daeth cadarnhad ddoe gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones fod y maes awyr wedi’i brynu am £52 miliwn oddi wrth gwmni TBI o Sbaen.

Wrth gadarnhau’r cytundeb, dywedodd Carwyn Jones: “Dyma gyfle i ddatblygu cyfleuster a fydd yn gwbl allweddol ar gyfer busnesau, twristiaid a’r cyhoedd.

“Hyderaf y bydd yr Aelodau yn rhannu ein huchelgais i hybu economi Cymru drwy’r datblygiad hwn.”

Ond mae Alun Cairns wedi dweud y gallai’r Llywodraeth fod wedi defnyddio’r arian i adeiladu ysgolion newydd.

Roedd e eisoes wedi mynegi pryder bod y Llywodraeth yn defnyddio arian cyhoeddus i brynu’r maes awyr.

Dywedodd wrth Golwg360: “Mae yna anghysondeb clir fan hyn gan Lywodraeth Cymru.

“Dim ond wythnos yn ôl, roedden nhw’n galw am fwy o gyllideb cyfalaf o’r Trysorlys ar gyfer prosiectau adeiladwaith i helpu i hybu’r economi yng Nghymru.

“Wythnos yma, maen nhw’n clymu lan £52 miliwn mewn ased sy’n bodoli eisoes.

“Fydden i ddim wedi dewis y llwybr yma, ond mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddenu cwmnïau hedfan rhyngwladol.

“Does dim angen perchen maes awyr i’w gefnogi.

“Fe wna’i gefnogi’r maes awyr, a gan nad yw’r rhan fwyaf o’r polisïau sy’n ymwneud â hedfan wedi’u datganoli, dwi’n obeithiol y caiff gwleidyddiaeth pleidiau ei gosod i’r naill ochr i sicrhau y cawn y ddêl orau i deithwyr.”