Mae llong dancer fawr ar ei ffordd i Aberdaugleddau am fod cyflenwadau nwy Prydain yn prinhau.

Yn sgil y tywydd oer mae’r galw am nwy wedi codi a’r cyflenwadau’n disgyn, gyda honiadau mai dim ond gwerth ychydig o oriau o nwy sydd ar ôl ym Mhrydain. Mae Llywodraeth Prydain wedi gwadu hynny.

Mae’r Zarga yn cario 266,000 o fetrau ciwbig o nwy hylif o Qatar ac mae disgwyl iddo gyrraedd Sir Benfro heno.

Glaniodd llong dancer arall o Qatar – y Mekaines – yng Nghaint dros y penwythnos wrth i’r tywydd oer arwain at gynnydd o 40% yn nefnydd nwy Prydain.

Pibell nwy hylif

Mae disgwyl i long dancer arall, y Tembek, gyrraedd Aberdaugleddau Ddydd Gwener yma.

Y Tembek oedd y tancer nwy hylif cyntaf i lanio yn Aberdaugleddau, yn 2009. Roedd y cynllun i dyllu trwy dde Cymru yn 2006 a 2007 er mwyn gosod pibau o Aberdaugleddau i Loegr yn un dadleuol.

Roedd rhai o drigolion Aberdaugleddau yn poeni am ddiogelwch y cyflenwadau ac roedd ymgyrchwyr amgylcheddol wedi meddiannu rhan o’r bibell yn Nhrebanws yng Nghwm Tawe.

Y llynedd gwahoddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones longau tanfor niwclear Prydain i ymgartrefu yn Aberdaugleddau, gan ennyn ymateb gan Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Jonathan Edwards: “Nid yw nukes a nwy LNG yn mynd gyda’i gilydd.”