Mae’r Pwyllgor Iechyd yn y Cynulliad yn cyhoeddi ei adroddiad heddiw ar y Mesur Trawsblannu Dynol.

Os caiff y mesur ei basio bydd pobol yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar restr rhoi organau, oni bai eu bod nhw’n datgan eu bod nhw’n gwrthwynebu hynny.

Yr adroddiad yw diwedd cymal cyntaf y broses ddeddfu ac fe all y Pwyllgor Iechyd gynnwys gwelliannau i Fil y Llywodraeth yn ei adroddiad heddiw, sy’n cael ei gyhoeddi am 1yh.

Bydd cyfle gan y Cynulliad llawn i bleidleisio ar yr adroddiad ar Ebrill 16 er mwyn i’r Bil gael parhau trwy’r Cynulliad.

Cadeirydd dros-dro’r Pwyllgor Iechyd, Vaughan Gething, fydd yn cyhoeddi’r adroddiad heddiw gan fod y cadeirydd blaenorol, Mark Drakeford, newydd gael ei benodi’n Weinidog Iechyd.