Leighton Andrews
Mae Leighton Andrews wedi ysgrifennu at arweinwyr yr awdurdodau lleol i’w hannog i wneud mwy i hybu a chefnogi’r  Gymraeg yn eu hardaloedd nhw.

Mae’r Gweinidog yn y Llywodraeth yn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad a awgrymodd fod yr iaith yn colli tir yn rhai o’r hen gadarnleoedd.

Daw’r newydd ar yr un diwrnod â beirniadaeth Leighton Andrews o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd eu bod nhw ymhlith y sefydliadau sydd heb “ymgyfarwyddo â datganoli.”

Addysg a phobol ifanc

Dywedodd Leighton Andrews: “Mae gan bob un ohonon ni sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg rôl i’w chwarae yn sicrhau ei dyfodol. Mae gan yr Awdurdodau Lleol rôl arbennig o bwysig i’w chwarae yn hyn o beth.

“Rydw i’n awyddus i weld y buddsoddiad sy’n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol mewn addysg cyfrwng Cymraeg ac addysg ddwyieithog, sy’n helpu i greu siaradwyr Cymraeg y dyfodol, yn cael ei ymestyn drwy ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau hamdden Cymraeg i’r un plant a phobl ifanc.

Drwy wneud hyn bydd eu profiad o ddefnyddio’r Gymraeg yn cael ei gysylltu â mwynhau gweithgareddau y tu allan i’r ysgol.

Gwasanaethau

Dywedodd Leighton Andrews ei fod am weld mwy o wasanaethau wyneb yn wyneb yn cael eu cynnig yn Gymraeg a bod cynghorau yn “rhoi sylw penodol i wasanaethau Cymraeg wrth wneud penderfyniadau cyllido.”

“Dwi hefyd am weld mwy o gyfleoedd yn cael eu rhoi i bobl – yn arbennig pobl ifanc sy’n gadael addysg cyfrwng Cymraeg – ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith ym mhob cwr o Gymru, gan gynnwys y sector cyhoeddus.

“Er fy mod yn deall ein bod yn gweithio o dan amgylchiadau anodd ar hyn o bryd, gyda’n cyllidebau yn cael eu gwasgu, ni allwn roi o’r neilltu’r dasg o hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg.”

Cyd-fynd gyda Strategaeth Iaith Fyw: Iaith Byw

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg, Iaith Fyw: Iaith Byw ar 1 Mawrth 2012 gan nodi chwe maes i’w datblygu:

  1. Hwyluso a hybu’r defnydd o’r Gymraeg, gan roi sylw penodol i’r teulu;
  2. Rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol;
  3. Rhoi cymorth tuag at ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned;
  4. Defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
  5. Datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ym maes technoleg gwybodaeth gan gynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
  6. Addysg. Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn ei gwneud hi’n ofynnol i awdurdodau lleol lunio Cynlluniau ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac i fesur y galw amdano.