Leighton Andrews
Mae angen i Gymdeithas yr Iaith “dyfu i fyny” medd y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru.

Mewn blog di-flewyn-ar-dafod dywedodd Leighton Andrews fod Cymdeithas yr Iaith yn un o’r sefydliadau sydd heb “ymgyfarwyddo â datganoli. Fel S4C cyn penodiad Ian Jones, fel CBAC, fel Prifysgol Cymru, fel y 22 awdurdod addysg leol ac fel yr Eisteddfod.”

Mae Leighton Andrews yn anfodlon ei fod wedi gadael cynhadledd ar y Gymraeg a’r Cyfrifiad yn Rhydaman wythnos ddiwethaf i weld fod aelodau o Gymdeithas yr Iaith yn eistedd yn ei gar a’r heddlu’n bresennol.

“Hurt bost” meddai. Mynnodd fod y bobol yn gadael ei gar neu roedd cyfarfod oedd wedi ei drefnu rhyngddo ef a Chymdeithas yr Iaith yn cael ei ganslo meddai.

‘Gallan nhw ddim atal eraill rhag gwneud eu gwaith’

Dywedodd Leighton Andrews fod croeso i Gymdeithas yr Iaith fod yn rhan o’r sgwrs fawr ar ddyfodol yr iaith ond “allan nhw ddim eistedd o amgylch y bwrdd trafod a cheisio atal eraill rhag gwneud y gwaith y cawsant eu hethol i’w wneud ar yr un pryd,” meddai.

“Mae’r Gymdeithas wedi troi’n hanner cant bellach, ac mae’n bryd iddi dyfu i fyny.”

Ymateb Cymdeithas yr Iaith i’r sylwadau

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith fod y gynhadledd ddiweddar yn Rhydaman yn “gyfle i Leighton Andrews gyhoeddi sefydlu rhagor o bwyllgorau a gweithgorau, er mwyn cael ei weld yn gwneud rhywbeth, yn hytrach na bod newidiadau polisi pendant.”

“Yr un peth a welwyd yn dilyn canlyniadau Cyfrifiad 2001 – sefydlu pwyllgorau a gweithgorau a dim byd yn dod ohonynt,” meddai Robin Farrar.

“Diddorol oedd darllen ei sylwadau am Gymdeithas yr Iaith, ond nid wy’n cytuno bod y Gymdeithas wedi methu ag ymateb i ddatganoli. Rydym yn manteisio’n gyson ar y cyfleoedd mae’r drefn ddatganoledig yn ei chynnig ar gyfer lobïo a dylanwadu ar bolisïau. Mae’r ffaith bod Leighton Andrews mor hoff o’n swyddog cyfathrebu a lobïo, Colin Nosworthy, yn brawf o hyn!

“Ond o ystyried maint yr her mae’r iaith yn ei hwynebu, a mor ddiffygol yw’r ymateb llywodraethol, credwn fod gweithredu uniongyrchol di-drais mor angenrheidiol a pherthnasol ag erioed. Nid mater o geisio atal eraill rhag wneud eu gwaithyw hynny, ond mater o fynnu bod gwleidyddion yn gwneud eu gwaith.

“Dyna pam cynhaliwyd piced tu allan i’r gynhadledd wythnos ddiwethaf, ac eisteddodd 3 o aelodau’r Gymdeithas yng nghar Leighton Andrews er mwyn gofyn am gyfarfod ar frys.

“Unwaith i ni ddeall ei fod wedi cytuno i hyn fe ddaeth y biced i ben. Ni dderbyniwyd ei ebost yn cytuno i gyfarfod tan ar ôl y gynhadledd, ac rydym yn croesawu’n fawr y cyfle i gwrdd ag ef i drafod y materion pwysig yma”