Wrth i David Cameron amlinellu’r cytundeb ar gyfer corff newydd i  reoleiddio’r wasg, mae darlithydd newyddiaduraeth wedi dweud wrth Golwg360 bod y ddadl am reoleiddio’r wasg yn un “hen ffasiwn”.

Mae’r pleidiau’n gytûn y bydd y corff newydd yn cyflwyno rheolau llawer mwy llym i reoleiddio’r wasg gyda’r gallu i gyflwyno dirwyon o hyd at £1 miliwn i bapurau newydd sy’n camymddwyn a’u gorfodi i gyhoeddi ymddiheuriadau amlwg.

Ond dywedodd Ifan Morgan Jones, sy’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac yn gyn-newyddiadurwr,  bod y ddadl dros reoleiddio’r wasg mewn perygl o fod yn ddibwys ymhen ychydig amser.

‘Y rhyngrwyd ydy’r frwydr newydd’

“Tydi hi ddim yn hollol eglur eto be ydi’r cytundeb ac mae dipyn o anghytuno  os fydd ‘na ddeddf i ategu’r Siarter Frenhinol, fel yr oedd y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur eisiau.

“Ond mae’r ddadl fawr yma am sut mae rheoleiddio’r wasg yn hen ffasiwn erbyn hyn. Un dudalen oedd yn Adroddiad Levenson yn trafod y rhyngrwyd. Ond dyma, yn y pen draw, ydi maes y frwydr newydd.

“Mae pobl yn rhydd i sgwennu unrhyw beth ar y we ac mae hynny’n gallu bod yn beryglus fel yn achosion yr Arglwydd McAlpine a Ched Evans.

“Mae newyddiadurwyr, ar y llaw arall, yn  gorfod  bod yn ymwybodol o bob math o gyfreithiau felly tydi’r wasg ddim yn gwbl rydd fel mae hi. Mi roedd cyfreithiau i atal hacio ffonau symudol ond fe dorrwyd y rheini.

“Mae technoleg a newyddiaduraeth yn newid mor sydyn ar hyn o bryd. Ymhen ychydig flynyddoedd, gall y ddadl yma am reoleiddio’r wasg fod yn ddibwys oherwydd y ffordd mae pethau’n symud o brint ac i’r we.”

Rheoleiddiwr gyda dannedd
Ond ychwanegodd Ifan Morgan Jones ei fod yn cytuno bod angen rheoleiddiwr newydd sy’n gallu dirwyo papurau newydd am gamymddwyn.

“Dwi’n cytuno i raddau bod angen rheoleiddiwr cryfach, un â dannedd. Beth sydd wedi dod i’r amlwg dros y misoedd diwethaf ydi’r unig iaith mae papurau newydd yn ei ddeall ydi iaith fasnachol.

“Roedd pwysau masnachol ar y News of the World mor fawr nes eu bod nhw’n gorfod cau oherwydd eu bod nhw’n wynebu colli arian am hysbysebion.

“Dwi’n meddwl unwaith mae grym cyfreithiol a gwleidyddion yn dod i mewn i’r peth, ti’n colli pŵer y wasg i ddal gwleidyddion yn gyfrifol am eu penderfyniadau hefyd.”