Geraint Tudur (o wefan Undeb yr Annibynwyr)
Mae arweinydd enwad crefyddol wedi galw ar Gristnogion i wrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Prydain i roi “treth ar stafelloedd sbâr” mewn tai cymdeithasol.

Fe fydd llawer o bobol yng Nghymru’n wynebu “cosb ariannol” meddai Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr.

Fe ddaw ei ddatganiad ychydig ddyddiau ar ôl i tua 40 o esbogion o Eglwys Lloegr arwyddo llythyr agored yn beirniadu newidiadau’r Llywodraeth i’r system fudd-daliadau.

‘Caledi gwirioneddol’

“Bydd nifer fawr yn dioddef caledi gwirioneddol, yn eu plith rieni sy’n gweithio’n galed am gyflog isel,” meddai Geraint Tudur.

“Bwriad y cynllun yw gorfodi pobl allan o’u cartref i le llai; ond mae prinder tai a fflatiau un-llofft eisoes.”

Ar ôl mis Ebrill, fe fydd pobol sy’n byw mewn tai cymdeithasol yn colli budd-dal neu’n gorfod symud os bydd yr awdurdodau o’r farn fod ganddyn nhw fwy o le nag sydd eisiau.

Mae’r cymdeithasau tai sydd bellach yn cynnal y rhan fwya’ o dai cymdeithasol hefyd yn gwrthwynebu.

Galw ar Gristnogion

“Rhaid i ni Gristnogion, fel dilynwyr yr Un a ddywedodd nad oedd ganddo le i roi ei ben i lawr, wrthwynebu’r cynllun annoeth hwn a fydd yn tarfu ar gartrefi a bywyd teuluol ac yn achosi gofid a chaledi pellach i rai o’r bobl fwyaf tlawd mewn cymdeithas,” meddai Geraint Tudur.