Bydd pobol yn gallu pori trwy filoedd o hen dudalennau papurau newydd Cymru diolch i brosiect sy’n cael ei lansio heddiw.

Mae prosiect Papurau Newydd Cymru Ar-lein wedi rhoi dros gant o bapurau a chyhoeddiadau o’r cyfnod cyn 1911 ar y we.

Mae hawlfraint y papurau, sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, wedi dod i ben erbyn hyn ac ymhlith y teitlau mae’r Merthyr Times, y South Wales Star, Y Gwladgarwr, Y Dydd a’r Prestatyn Weekly.

Yn ystod y flwyddyn fe fydd y Western Mail, y North Wales Chronicle, Y Cymro, a’r Cardiff Times yn cael eu hychwanegu at y casgliad.

‘Creu dolen gyswllt gyda’r gorffennol’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig £2m tuag at y prosiect £3m ac mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi creu stiwdio ddigidol newydd a thîm o weithwyr yno wedi sganio pob tudalen.

Yn ôl y Llyfrgellydd Andrew Green bydd y prosiect yn “trawsnewid y ffordd mae pobol yn dysgu ac yn ymchwilio hanes, diwylliant a hunaniaeth Cymru.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones mai “creu dolen gyswllt rhwng ein gorffennol a’n dyfodol” yw diben y prosiect.

Yn ôl Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, yr hanesydd Deian Hopkin:

“Mae hwn yn gam pwysig tuag at wireddu gweledigaeth strategol y Llyfrgell o sicrhau mai Cymru yw’r wlad gyntaf i ddarparu ei holl ddeunydd printiedig ar-lein, fel y gall unrhyw un chwilio drwyddo a’i ddarllen yn rhad am ddim.”