Richard Burton
Mae gwraig gyntaf Richard Burton wedi marw yn 83 oed.

Roedd Burton a Sybil Christopher yn briod yn 19 oed, cyn i’r actor ei gadael hi ar ôl dechrau perthynas ag Elizabeth Taylor.

Roedd y Gymraes yn ferch i löwr o’r Rhondda, a symudodd i Lundain er mwyn bod yn fyfyrwraig yn Academi Cerdd a Drama Llundain.

Yno y gwnaeth hi gwrdd â Richard Burton.

Tra yno, ymddangosodd hi yn y ffilm ‘The Last Days of Dolwyn’ yn 1948.

Ond rhoddodd y gorau i’w gyrfa ei hun er mwyn symud i’r Unol Daleithiau gyda Burton.

Gwnaeth y pâr ysgaru yn 1963 oherwydd bod Burton wedi bod mewn nifer o berthnasau gyda menywod eraill yn ystod eu priodas.

Priododd â’r gŵr busnes Jordan Christopher yn 1964, a buon nhw’n briod hyd nes iddo farw yn 1996.

Roedd ganddyn nhw un ferch.