Y Cynghorydd Dyfed Edwards
Mae dwy gynhadledd genedlaethol yn cael eu cynnal dros y pythefnos nesaf er mwyn trafod dyfodol y Gymraeg.

Mae Mudiadau Dathlu’r Gymraeg yn cynnal cynhadledd ddydd Iau yma ger Rhydaman, un o’r ardaloedd sydd wedi colli’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

Enw’r gynhadledd fydd Y Gymraeg a’r Cyfrifiad ac ymysg y siaradwyr yn y Mountain Gate ger Tŷ Croes fydd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws, y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg Leighton Andrews, ac Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards.

Cymunedau Cymraeg

Wyth niwrnod yn ddiweddarach mae Dyfed Edwards yn croesawu Leighton Andrews i Wynedd ar gyfer cynhadledd ar ddyfodol cymunedau Cymraeg.

Partneriaith Hunaniaith sy’n trefnu’r gynhadledd ar 22 Mawrth, yn Galeri Caernarfon, ac yn ogystal â Leighton Andrews fe fydd y cyn-Aelod Seneddol Adam Price yn siarad.

Byddan nhw’n trafod ffactorau sy’n dylanwadu ar y Gymraeg – ymrwymiad Llywodraeth, addysg, cyfleoedd economaidd, tai a defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards, Arweinydd Cyngor Gwynedd a chynrychiolydd Hunaniaith: “Fel sir sydd â’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg trwy Gymru, mae Gwynedd yn ymfalchïo yn ei rôl allweddol i arwain, trafod ac arloesi mewn perthynas â chynllunio ieithyddol, a hyrwyddo’r Gymraeg ar lefel sirol a chenedlaethol.

“Rwy’n gobeithio y bydd y gynhadledd genedlaethol hon yn dechrau trafodaeth aeddfed ar yr iaith, a fydd yn gymorth i sicrhau dyfodol disglair i gymunedau Cymraeg.”