Leighton Andrews
Bydd Gweinidog Addysg Cymru yn rhoi tystiolaeth yfory gerbron pwyllgor o Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae’r Pwyllgor Dethol ar Addysg yn trafod cymhwyster TGAU ac mewn llythyr at gadeirydd y pwyllgor, Graham Stuart AS, mae Leighton Andrews wedi pwysleisio mai “cymhwyster tair gwlad” yw’r TGAU sy’n cael ei gynnig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Yn y llythyr dywedodd Leighton Andrews fod graddio TGAU y llynedd wedi codi cwestiynau ynglŷn â safoni graddau a dywedodd ei bod hi’n “anffodus” fod Ysgrifennydd Addysg Lloegr wedi gwrthod cais iddyn nhw gwrdd y llynedd.

Roedd Michael Gove wedi cyhuddo Leighton Andrews o fod “anghyfrifol ac yn anghywir” am orfodi ail-raddio papurau TGAU yng Nghymru yn dilyn cwymp yn nifer y disgyblion a dderbyniodd raddau A*-C.

Fis diwethaf gwnaeth Michael Gove dro pedol a chyhoeddodd y bydd y cymhwyster TGAU yn parhau yn Lloegr, yn groes i’w addewid i gyflwyno bagloriaeth yn ei le.