S4C eisoes wedi gwrando ar Gai Toms
Yn dilyn sylwadau am Cân i Gymru gan golofnydd teledu cylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mae S4C yn ystyried anfon y gân fuddugol i gystadlu yn yr Eurovision i ieithoedd llai.

Ers degawdau mae caneuon sy’n ennill Cân i Gyrmu wedi mynd ymlaen i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn yr Iwerddon.

Ond yn ôl Dylan Wyn Williams yn ei golofn deledu, nid yw’r ŵyl honno yn ddim byd mwy na “’steddfod dafarn”.

“Os ydi S4C mor frwd dros y gystadleuaeth,” meddai, “pam nad yw’n anfon y buddugwr blynyddol i gystadleuaeth Liet International, eurovision yr ieithoedd llai a gynhaliwyd yn Asturias, gogledd Sbaen, y llynedd?

“Lleuwen o Lydaw – Lleuwen Steffan gynt o Riwlas – ddaeth i’r brig gyda chân Lydaweg, yn erbyn cystadleuwyr o’r Alban, Gwlad y Basg, Corsica, Fryslân a Sardinia ymhlith eraill. Mae hon yn cael ei darlledu’n fyw ar orsafoedd teledu Ewrop ac felly’n gwneud mwy o synnwyr na’r Ban Geltaidd ddisylw, felly beth amdani eleni S4C?”

Ystyried yr awgrym

Ar gyfer Cân i Gymru eleni roedd S4C wedi gwrando ar gyngor enillydd y llynedd, Gai Toms, ac wedi rhannu’r £10,000 o wobr ymysg bandiau sy’ wedi bod yn gweithio’n galed i gynnal y Sîn Roc Gymraeg.

Cafodd y band buddugol ar y noson, Jessop a’r Sgweiri, £3,500 o wobr am ennill efo ‘Mynd I Gorwen Hefo Alys’, a sawl band arall yn derbyn £1,000 yr un am bethau fel albym orau’r flwyddyn, perfformiad byw gorau’r flwyddyn ac yn y blaen.

Ac mae Comisiynydd Adloniant S4C wedi dweud y byddan nhw’n edrych ar y posibilrwydd o anfon cerddorion Cymraeg i’r Liet International.

“Yn draddodiadol mae enillydd cystadleuaeth Cân i Gymru wedi cymryd rhan yn yr Ŵyl Ban Geltaidd,” meddai Gaynor Davies.

“Ond mae S4C yn ystyried pob opsiwn i’r dyfodol gan gynnwys y posibilrwydd o gystadlu yn y Liet.”