Y Crown At Whitebrook
Fe fydd  bwyty seren Michelin yn Sir Fynwy yn cau yn syth oherwydd “materion ariannol” fe gyhoeddwyd ddoe.

Dywed staff y Crown At Whitebrook yn Nyffryn Gwy  bod yr eira trwm dros y gaeaf  wedi ychwanegu at broblemau’r  sefydliad poblogaidd.

Dim  ond pedwar o fwytai o safon Michelin sydd yng Nghymru, ac fe enillodd y Crown At Whitebrook ei seren yn 2007, gan gyrraedd safle 27 yn y Good Food Guide 2013.

Cyhoeddodd bwrdd rheoli’r bwyty ddoe fod materion ariannol wedi eu gorfodi i’w gau, gyda cholledion o £1.23miliwn ar gyfer y flwyddyn hyd at Fawrth 31, 2013.

James Sommerin, 34, o Gaerllion, a enillodd ei seren Michelin gyntaf yn 28 oed, oedd yn rhedeg y bwyty.

Mynegwyd siom ar Twitter ddoe ar ôl i’r bwyty gyhoeddi ei fod yn cau ar unwaith – cafodd ei ddisgrifio gan  un  fel “Y perl yng nghoron coginio Cymraeg”; “Diwrnod trist i fwyd Cymraeg” meddai un arall;  a “Bydd talent coginiol J Sommerin yn siwr o godi eto” dywedodd trydarwr arall.