Leighton Andrews
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gofyn am gyfarfod brys gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg, Leighton Andrews.

Maen nhw wedi gofyn am y cyfarfod gyda’r Gweinidog er mwyn trafod penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod y safonau iaith gafodd eu hargymell gan Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws.

Dywedodd Sian Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith, bod angen i’r safonau wireddu’r hawl moesol sydd gan bobl i fyw yn Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd.

Ychwanegodd bod y problemau diweddar gyda’r safonau yn deillio o’r diffyg ym Mesur y Gymraeg i gynnwys hawl cyffredinol i wasanaethau Cymraeg.

‘Comisiynydd yn bencampwraig’
Mae Sian Howys hefyd wedi dweud bod gan y Comisiynydd rôl bwysig fel “pencampwraig dros sicrhau hawliau i’r Gymraeg ac ni ddylid ar unrhyw gyfrif tanseilio ei gwaith.”

“Rydyn ni wedi ein siomi gan benderfyniad Leighton Andrews, mae’n debyg ei fod wedi ildio i bwysau gan gwmnïau a sefydliadau mawrion,” ychwanegodd.

“Mae rhaid i’n ffocws fod ar benderfyniad y Gweinidog a’i ddal yn atebol. Ein blaenoriaeth ni fel mudiad yw sicrhau bod pobl Cymru yn cael y safonau iaith gorau, oherwydd y bydd hynny yn golygu rhagor o swyddi cyfrwng Cymraeg a gwell gwasanaethau yn yr iaith.

“Mae gan y safonau rôl i’w chwarae wrth sicrhau twf yn y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod – rhywbeth y gwnaethon ni bwysleisio yn ein cyfarfod gyda’r Prif Weinidog hefyd.”

Llythyr at y Gweinidog

Yn ei llythyr at Leighton Andrews, dywedodd Sian Howys: “Rydym am drafod sut y gallwn gael pawb i gydweithio ar ffyrdd o gyflwyno’r safonau iaith mewn ffordd bositif.  Mae pobol Cymru am fyw yn Gymraeg – gwelwyd hyn yn yr ymateb gwych a gafwyd i’n ralïau diweddar.

“Ac eto mae cwmnïau mawrion, rhai ohonynt sy’n hapus i weithredu’n ddwy neu dair-ieithog mewn gwledydd eraill, yn ei chael yn anodd cydnabod bodolaeth y Gymraeg. Rôl ein Llywodraeth yw hyrwyddo pob agwedd o fywyd ein gwlad.  Byddai’n dda felly, petai’n Llywodraeth, sy’n gweithredu ewyllys y bobol wedi’r cyfan, yn barod i barchu dymuniad y bobol.

“Er mwyn gwneud hyn mae angen gweithredu beiddgar a hyderus ar ran ein Llywodraeth. A dymuniad Cymdeithas yr Iaith yw chwarae rhan adeiladol yn y broses gan sicrhau hawl pobl Cymru i fyw yn Gymraeg.”