Mae Llywydd y grŵp pwyso Dyfodol i’r Iaith wedi dweud ei bod am weld Comisiynydd y Gymraeg sy’n “gweithredu’n gadarn, yn effeithiol ac yn sydyn er lles y Gymraeg”.
Daw sylwadau Bethan Jones Parry ar ol i Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol yr Iaith, ddweud ddoe bod penderfyniad Leighton Andrews i wrthod argymhellion Comisiynydd y Gymraeg yn tanseilio swydd y comisiynydd.
Dywedodd Heini Gruffudd hefyd y byddai’n ystyried delio’n uniongyrchol gyda swyddfa Leighton Andrews yn hytrach na Chomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn y dyfodol.
Wythnos ddiwethaf gwrthododd y Gweinidog dros y Gymraeg, Leighton Andrews, Safonau’r Comisiynydd ar gyfer cyrff cyhoeddus a chyfleustodau gan ddweud eu bod nhw’n “rhy gymhleth” a ddim yn rhesymol.
Ond dywedodd Llywydd Dyfodol i’r Iaith, Bethan Jones Parry wrth Golwg 360 mai “sylwadau personol a fynegwyd gan Heini Gruffudd.”
Awyddus i weld y comisiynydd yn gweithredu
Dywedodd Bethan Jones Parry: “Mae Dyfodol i’r Iaith yn awyddus i weld Comisiynydd y Gymraeg yn gweithredu yn gadarn, yn effeithiol ac yn sydyn er lles y Gymraeg a’r iaith yn parhau fel iaith gymunedol.
“Mae’r berthynas rhyngddi hi â’r Gweinidog, Leighton Andrews yn hanfodol yn hyn o beth. Yr ydym yn awyddus i weld safonau cryf mewn lle cyn gynted ag sy’n bosib a dyma un o’r pynciau fydd yn cael blaenoriaeth yng nghyfarfod nesaf y bwrdd.”
CYI yn amddiffyn rôl Comisiynydd y Gymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi amddiffyn rol Comisiynydd y Gymraeg y bore ma.
Dywedodd Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bod y safonau gafodd eu cynnig yn “rhy heriol a blaengar” i’r gweinidog.
Ychwanegodd Sian Howys mai cwestiynau am hygrededd y gweinidog yn hytrach na’r comisiynydd oedd yn cael eu codi gan y penderfyniad.
Rhoddodd Sian Howys neges ar Twitter bore ma hefyd oedd yn dweud: “Gwaith @ComyGymraeg yw bod n bencampwraig dros hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg a chraffu ar @LlywodraethCym – pwysig bod dim tanseilio hynny.”
Ymateb y Comisiynydd
Mewn cyfweliad ar Radio Cymru bore ddoe roedd y Comisiynydd Meri Huws yn gwadu bod Leighton Andrews wedi tanseilio ei rôl.
Dywedodd mai cyfrannu at y broses o greu safonau yw ei chyfrifoldeb hi yn hytrach na’u drafftio nhw.