Meri Huws
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi amddiffyn gwaith Comisiynydd y Gymraeg y bore ma ar ôl i Heini Gruffudd o Dyfodol i’r Iaith ddweud y dylai ystyried ei dyfodol.

Wythnos ddiwethaf gwrthododd y Gweinidog dros y Gymraeg, Leighton Andrews, Safonau’r Comisiynydd ar gyfer cyrff cyhoeddus a chyfleustodau gan ddweud eu bod nhw’n “rhy gymhleth” a ddim yn rhesymol.

Dywedodd cadeirydd y grŵp pwyso Dyfodol i’r Iaith, Heini Gruffudd, ddoe bod penderfyniad Leighton Andrews i wrthod argymhellion Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, yn tanseilio ei swydd.

Dywedodd hefyd y byddai’n ystyried delio’n uniongyrchol gyda swyddfa Leighton Andrews yn hytrach na Chomisiynydd yr Iaith yn y dyfodol.

Ond dywedodd Sian Howys o Gymdeithas yr Iaith ar y Post Cyntaf ar Radio Cymru bod y safonau yn “rhy heriol a blaengar” i’r Gweinidog.

Ychwanegodd Sian Howys mai cwestiynau am hygrededd y gweinidog yn hytrach na’r Comisiynydd oedd yn cael eu codi gan y penderfyniad.

Rhoddodd Sian Howys neges ar Twitter bore ma hefyd oedd yn dweud: “Gwaith @ComyGymraeg <https://twitter.com/ComyGymraeg> yw bod n bencampwraig dros hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg a chraffu ar @LlywodraethCym <https://twitter.com/LlywodraethCym> – pwysig bod dim tanseilio hynny.”

Ymateb y Comisiynydd

Mewn cyfweliad ar Radio Cymru bore ddoe roedd y Comisiynydd Meri Huws yn gwadu bod Leighton Andrews wedi tanseilio ei rôl.

Dywedodd mai cyfrannu at y broses o greu safonau yw ei chyfrifoldeb hi yn hytrach na’u drafftio nhw.