Peter Hain
Mae Aelod Seneddol Castell Nedd, Peter Hain, wedi cael ei benodi ar fwrdd cwmni mwyngloddio yn Affrica.

Bydd  cyn-ysgrifennydd gwladol Cymru yn cael ei gyflogi fel cyfarwyddwr anweithredol annibynnol i gwmni Amara Mining sy’n cloddio am aur yng Ngorllewin Affrica.

Dywedodd John McGloin, Cadeirydd Gweithredol Amara: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Peter i fwrdd Amara er mwyn canolbwyntio ar gyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol, cysylltiadau cymunedol ac agweddau amgylcheddol y busnes ynghyd â chysylltiadau gwleidyddol ehangach Affrica.

“Mae’n dod a phrofiad gwerthfawr mewn gwleidyddiaeth Affricanaidd gydag o sy’n ategu sgiliau aelodau eraill o’r bwrdd.”

Cafodd yr AS Llafur ei eni a’i fagu yn Ne Affrica cyn symud i’r DU pan oedd yn ei arddegau. Roedd yn ymgyrchydd gwrth-apartheid brwd yn y 70au.