Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dweud mai cyfrannu at y broses o greu safonau yw ei chyfrifoldeb hi yn hytrach na’u drafftio nhw.
Wythnos ddiwethaf gwrthododd y Gweinidog dros y Gymraeg, Leighton Andrews, Safonau’r Comisiynydd ar gyfer cyrff cyhoeddus a chyfleustodau gan ddweud eu bod nhw’n “rhy gymhleth” a ddim yn rhesymol.
Mewn cyfweliad ar Radio Cymru y bore ma roedd y Comisiynydd Meri Huws yn gwadu bod Leighton Andrews wedi tanseilio ei rol.
“Dwi’n parchu penderfyniad y Gweinidog,” meddai.
“Cynnig set o safonau drafft wnaethon ni. Doedden ni ddim yn twyllo’n hunain i feddwl nad y Llywodraeth oedd â’r gair olaf ar y Safonau.”
Annibyniaeth
Wythnos ddiwethaf mynnodd Leighton Andrews fod Comisiynydd y Gymraeg yn “gyfan gwbl annibynnol.”
“Mae ei hannibyniaeth gweithredol yn cynnwys yr hawl i gyflwyno cynigion lle na fydd y Llywodraeth, yn y pendraw, yn cytuno â hi,” meddai Leighton Andrews.
Dywedodd Meri Huws fod annibyniaeth yn “gysyniad anodd i bawb” a bod angen amser er mwyn sefydlu corff y Comisiynydd.
“Mae angen sefydlu perthynas newydd gyda’r llywodraeth – mae hon yn daith,” meddai Meri Huws.
Safonau yn 2014
Mae disgwyl i’r Safonau gael eu cyflwyno erbyn diwedd 2014 a dywedodd Meri Huws fod angen i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth ddefnyddio hynna fel nod a “chydweithio er budd y Gymraeg.”
Ond mae Simon Thomas o Blaid Cymru wedi mynegi pryder fod blwyddyn gyntaf Comisiynydd y Gymraeg “wedi bod yn gam gwag o safbwynt llunio safonau.”
“Mae dwy flynedd ers pasio’r Ddeddf Iaith, a byddai’n annheg aros dwy flynedd arall cyn llunio safonau iaith addas,” meddai Simon Thomas.
Mynnodd Meri Huws fod yr ymgynghoriad a gynhaliodd hi ar y Safonau wedi bod yn “ymarferiad hollbwysig” ac yn “PR gwych” ac mae mater i’r Llywodraeth yw amserlen cyflwyno’r Safonau.