Mae canonoedd o geffylau’n cael eu “dympio” yng Nghymru wrth I’r wasgfa ariannol gydio.

Ac yn ôl y mudiad anifeiliaid, yr RSPCA, mae hynny’n cyfrannu at broblem “aruthrol” pori anghyfreithlon.

Fe ddaeth eu sylwadau wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â mesurau i geisio atal y broblem, sy’n arbennig o amlwg yn ardal Chaerdydd, Morgannwg a Phen y Bont.

Y nod yw cael cydweithio rhwng nifer o asiantaethau a chyrff i rwystro’r pori – mae’n digwydd pan fydd ceffylau’n cael eu gadael ar dir cyhoeddus neu breifat heb ganiatâd.

Peryglu pobol

Mae’r broblem yn peryglu pobol a lles anifeiliaid, meddai Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaeth.

“Gan nad oes unrhyw fesur cyfreithiol yn ei le i fynd i’r afael â’r broblem, mae Llywodraeth Cymru eisiau fframwaith cyfreithiol fydd yn galluogi awdurdodau gorfodi i atal pobl rhag gadael ceffylau a chaniatáu iddynt bori’n  anghyfreithlon.”

‘Problem aruthrol’

Mae RSPCA Cymru yn dweud eu bod yn gorfod delio gyda nifer fawr o achosion o bori anghyfreithlon bob blwyddyn, ac yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i atal y broblem.

Dywedodd Gethin Russell-Jones o’r mudiad, bod pori anghyfreithlon yn broblem “aruthrol” yn ne Cymru.

“Mae cannoedd ar gannoedd o geffylau wedi eu dympio yng Nghymru, felly mae’n broblem ddwys iawn, a dyna pam bod yr ymgynghoriad yn bwysig, i sicrhau bod pawb yn cyd-weithio.”

Pam fod hyn yn digwydd?

“Mae llawer o broblemau sy’n arwain at bori anghyfreithlon – does dim marchnad ail-law i geffylau ac mae’n bosib prynu ceffyl am ddim ond £5, felly mae llawer o bobol yn dewis gollwng yr anifail yn rhydd yn lle hynny,” meddai.

“Hefyd mae costau bwyd  yn cynyddu, ac yn aml gwraidd y broblem yw nad yw perchnogion ddim eisiau gofalu am yr anifeiliaid ymhellach.

“Dydyn ni fel elusen ddim yn cael symud yr anifeiliaid heb ganiatâd y perchennog, ond yn aml mae’n amhosib dod o hyd iddyn nhw.”

Dywedodd Gethin Russell-Jones y dylai unrhyw un sy’n ymwybodol o geffyl sydd yn pori yn anghyfreithlon gysylltu â’r RSPCA.