Sassie Rees (llun Hugh Roberts Abermaw)
Bu farw’r gantores a’r gyflwynwraig Sassie Rees yn 97 oed.

Cafodd ei geni yn y Bermo yn 1916 a dechreuodd ganu yn 8 oed.

Erbyn iddi fod yn 15 roedd wedi ennill 150 o wobrau mewn gwahanol eisteddfodau.

Roedd yn enwog fel cyflwynwraig sawl rhaglen i blant gan gynnwys ‘Ar Lin Mam’ a ‘Jim Cro Crystyn’.

Roedd hefyd yn gasglwr llawer o hwiangerddi a chaneuon plant.

Mae’n gadael merch, sef yr actors a’r gantores Olwen Rees.