Mae Radio Cymru wedi comisiynu drama unnos gan ddau ddramodydd blaengar.

Bydd y ddrama yn cael ei hysgrifennu heno gan Ian Rowlands ac Aled Jones Williams, a’r bwriad yw creu drama wreiddiol ar gyfer darllediad ar 1 Mawrth.

Bydd y ddau yn dod at ei gilydd yng nghanolfan y BBC ym Mangor heno, ac yn gweithio drwy’r nos i greu stori newydd ar gyfer gwrandawyr Radio Cymru.  Bydd y sesiwn yn cael ei ffilmio ar gyfer darllediad ar wefan y BBC hefyd.

‘Elfen o ddirgelwch’

Ni fydd y dramodwyr yn cael gwybod pwy fydd yn actio yn y cynhyrchiad newydd cyn ei hysgrifennu, fel nad oes cyfle iddyn nhw greu syniadau am gymeriadau na phlot y ddrama o flaen llaw.  Bwriad hyn yw creu drama hollol wreiddiol, gydag elfen o ddirgelwch i’r cynhyrchwyr.

Bydd y ddrama yn cael ei ddarlledu ar ddydd Gŵyl Dewi, a gall hyn gael ei adlewyrchu yng nghynnwys y stori.

Mae Aled Jones Williams yn llenor a dramodydd a enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2002, ac mae Ian Rowlands wedi ysgrifennu nifer o ddramâu ar bynciau amrywiol, yn y Gymraeg a Saesneg.