Mae’r rhaglen ar gyfer gŵyl gerddoriaeth jazz fyd-enwog yn Aberhonddu wedi ei chyhoeddi heddiw.

Yn chwarae eleni bydd nifer o enwogion y maes, gan gynnwys Jools Holland, Courtney Pine a Mavis Staples, ar lwyfannau ar hyd y dref.

Bydd Django Bates, Zoe Rahman, Phronesis, Julian Siegel, Jason Rebello, Acker Bilk ac enillwyr 18 o wobrau Grammy, The Impossible Gentlemen hefyd yn perfformio.

Dyma’r ail flwyddyn i gwmni Cymraeg Orchard drefnu’r ŵyl, a dywedon nhw eu bod yn gobeithio rhoi sylw i ddoniau jazz newydd o Gymru eleni.  Bydd y cwmni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r artist o Gymru, Huw Warren i greu cyd-weithiau celfyddydol amrywiol.

Bydd Orchard yn gweithio gyda’r ŵyl ymylol, y Brecon Fringe i gynnal cerddoriaeth gyda’r nos mewn clybiau a thafarndai.

‘Adeiladu ar lwyddiant y llynedd’

Dywedodd cyfarwyddwr Orchard Pablo Janczur: “Fe gawson ni bleser eithriadol o’n blwyddyn gyntaf yn 2012, fe wnaethon ni lawer o ffrindiau yn Aberhonddu ac roedden ni wrth ein boddau gyda’r adborth a gawson ni.

“Erbyn hyn rydyn ni wedi ychwanegu traean eto at nifer y cyngherddau, wedi cynnal ansawdd y ddarpariaeth gyda rhywbeth ar gyfer pob chwaeth ym maes jazz, ac rydym yn bwriadu adeiladu ar sail llwyddiant y llynedd.”

Bydd Gŵyl jazz Aberhonddu yn cael ei chynnal rhwng 9-11 Awst,  a cheir mwy o wybodaeth ar www.breconjazz.com