Kirsty Williams
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Gyngor Iechyd Cymunedol y gogledd i newid eu penderfyniad i beidio cyfeirio mater ad-drefnu ysbytai’r gogledd i’r Gweinidog Iechyd.

Daw hyn ar ôl i gyngor iechyd cymunedol cyfagos Hywel Dda gyfeirio mater ad-drefnu gwasanaethau ysbytai’r de-orllewin a’r canolbarth i Lesley Griffiths.

Yn ôl Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, dylai pobol y gogledd “deimlo eu bod nhw wedi cael eu siomi’n fawr gan eu cyngor iechyd cymunedol.”

“Mae Cynghorau Iechyd Cymunedol yno i gyfleu barn y bobol leol a chleifion y gwasanaethau iechyd.”

‘Codi cwestiynau difrifol’

“Mae’r broses yma wedi codi cwestiynau difrifol am effeithiolrwydd rhai cynghorau iechyd cymunedol yng Nghymru,” meddai Kirsty Williams.

Mae gan Gyngor Iechyd Cymunedol Betsi Cadwaladr tan Fawrth 1 petae nhw eisiau ail-ystyried penderfyniad eu pwyllgor gwaith nhw i beidio cyfeirio mater ad-drefnu i’r Gweinidog.

Mae cynlluniau Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cynnwys symud gwasanaeth arbenigol i fabanod newydd o ysbytai Maelor Wrecsam a Glan Clwyd i Gilgwri yn Lloegr, a chau pedwar ysbyty cymunedol.

Gweinidog yn penderfynu

Mae Plaid Cymru wedi dweud fod y cyfrifoldeb o benderfynu ar ad-drefnu yn y de-orllewin bellach wedi cyrraedd Llywodraeth Cymru.

“Does dim modd i’r Gweinidog Iechyd olchi ei dwylo o’r sefyllfa yma, mae’n rhaid iddi bellach gymryd penderfyniad gwleidyddol,” meddai llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones.

“Mae wedi cymryd dwy flynedd i ni gyrraedd fan hyn ac rydw i’n cael fy atgoffa o’r cyfnod cyn etholiad Cynulliad 2011 lle rhybuddiodd Plaid Cymru y byddai’r llywodraeth Lafur yn caniatáu i ganoli gwasanaethau ddigwydd o fewn y gwasanaeth iechyd, ac fe wnaeth Llafur wfftio hyn.

“Dwy flynedd yn ddiweddarach mae’r prawf ar fin cael ei osod o flaen y gweinidog. Rhoddodd y Gweinidog y golau gwyrdd i’r byrddau iechyd ganoli gwasanaethau ac fe wnaeth y byrddau iechyd hyn.

“Nawr, mae’n rhaid i’r gweinidog rhoi ei sêl bendith i’r cynlluniau hynny neu eu gwrthod nhw.”