Alun Ffred Jones
Mae cyn Weinidog y Gymraeg wedi condemnio’r oedi tros gyflwyno safonau i sicrhau’r defnydd o’r iaith mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Ar ôl i’r Gweinidog presennol, Leighton Andrews, wrthod cynigion Comisiynydd y Gymraeg, mae Alun Ffred Jones yn dweud fod angen dod tros y dadlau a “bwrw ymlaen efo’r gwaith”.

“Ar ôl dwy flynedd,” meddai mewn cyfweliad ar Radio Wales, “does gynnon ni ddim safonau y gallwn ni bleidleisio arnyn nhw ac mae hynny’n siomedig iawn.”

Rhybuddio

Alun Ffred Jones oedd y Gweinidog pan gafodd y ddeddf iaith ddiweddara’ ei phasio a honno oedd yn creu swydd y Comisiynydd.

Roedd yn rhybuddio y byddai ymyrraeth Leighton Andrews yn gohirio’r broses ymhellach – yn ei farn ef fe ddylai’r Gweinidog a’r Comisiynydd fod wedi dod i dealltwriaeth ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

“Allwn ni ddim cael Gweinidog a Chomisiynydd yng ngyddfau’i gilydd. Mi ddylai fod yna rhyw radd o unoliaeth a gweithio er lles yr iaith, siaradwyr y Gymraeg a Chymru ddwyieithog.”

Y cefndir

Mae Leighton Andrews wedi gwrthod safonau drafft y Comisiynydd gan ddweud eu bod yn rhy gymhleth ac yn “anghymesur”.

Ond mae ymgyrchwyr iaith wedi ei gyhuddo o ddod dan ddylanwad byd busnes ac fe gododd cyn Brif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, John Walter Jones, amheuaeth am swydd Comisiynydd.