Llyfrgell Genedlaethol
Mae’r Athro Aled Gruffydd Jones wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr a Llyfrgellydd newydd y Llyfrgell Genedlaethol.

Fe fydd yn olynu Andrew Green sy’n ymddeol ar 30 Mawrth ar ôl 14 mlynedd gyda’r Llyfrgell.

Gyda chymeradwyaeth Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell ar 8 Mawrth, bydd yr Athro Jones yn cychwyn ar ei waith yn fuan.

Yr Athro Aled Jones yw Athro Hanes Cymru Syr John Williams, Pennaeth yr Adran Gymraeg a Dirprwy Is-Ganghellor Hŷn Prifysgol Aberystwyth gan wasanaethu’r Brifysgol cyn hynny fel Pennaeth Adrannau Hanes a Hanes Cymru ac fel Deon y Dyniaethau.

Mae’n un o Ymddiriedolwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chadeirydd ei Bwyllgor Ymchwil. Mae’r Athro Jones yn hanesydd diwylliannol a bu hefyd yn  olygydd y Welsh Hisory Review.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a bu’n gwasanaethu fel ei Gyfarwyddwr Llenyddol (Modern) ac fel aelod o’i Chyngor Gweithredol. Mae’r Athro hefyd yn aelod o Banel Hanes yr ‘UK Research Excellence Framework’ ac mae ganddo brofiad helaeth o reolaeth academaidd ac ymchwil ac fel ymgynghorydd i’r Llyfrgell Brydeinig ac i Lywodraeth Cymru.

Mae’n ddarlledwr a cholofnydd profiadol ac ef hefyd oedd cyd drefnydd yr Wŷl Ffilmiau Ryngwladol Cymru gyntaf.

‘Arweinydd cadarn’
Dywedodd Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:  “Yn dilyn proses penodi agored a thryloyw mae’n bleser calon gen i gyhoeddi ein bod ni wedi canfod ymgeisydd o safon eithriadol gyda’r ystod angenrheidiol o briodoleddau a phrofiadau ar gyfer arwain y Llyfrgell drwy’r amrywiol heriau sy’n ein hwynebu.

“Mae Aled Jones wedi profi ei hun fel arweinydd cadarn ac mae’n meddu ar gymwyseddau strategol eang ym maes addysg uwch. Mae ganddo nid yn unig brofiad ymarferol o weithio yn yr amgylchedd gwybodaeth ddigidol ond mae ei ymrwymiad i’r maes hwn hefyd yn un nodedig. Ef yw’r person delfrydol i arwain y Llyfrgell wrth i’r sefydliad geisio darparu gwasanaeth o safon uchel i bobl Cymru”.

Dywedodd Aled Jones am ei benodiad:  “Braint o’r fwyaf yw cael y cyfle i arwain un o’n sefydliadau cenedlaethol mwyaf, er gwaethaf y sialensiau sy’n ein hwynebu. Rwy’n teimlo’n annheilwng o’r fraint. Rwy’n edrych ymlaen at drafod â’n rhanddeiliaid a’n defnyddwyr er mwyn canfod sut y gallwn eu gwasanaethu orau gan ymestyn yr un pryd at yr unigolion a’r cymunedau hynny nad ydym wedi gallu gweithio ond ychydig gyda hwy hyd yma, neu ddim o gwbl hyd yn oed.

“Wrth ddarparu’n gwasanaethau, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, gyda Llywydd y Llyfrgell a’r Bwrdd Ymddiriedolwyr, a chyda staff hynod ddiwyd y Llyfrgell, a hynny er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn ddarparwyr gwybodaeth anghymharol mae’n hawdd mynd ati”.

Mae’r Athro Aled Jones yn frodor o Lanfrothen ym Meirionnydd, Gwynedd, a chafodd ei addysg yn Ysgol Ardudwy, Harlech, a Phrifysgol Efrog.