Mae Ysgol Glanwydden ar gyrion Llandudno, tref fwyaf sir Conwy
Mae rhieni plant ysgol gynradd ar gyrion Llandudno’n cael eu hannog i ymuno ag ymgyrch yn erbyn yr hyn sy’n cael ei ddisgrifio fel ‘gormod o Gymraeg’ yn yr ysgol.

Mewn cylchlythyr at rieni Ysgol Glanwydden, dywed un o’r tadau, Jacques Protic, fod arno angen cefnogaeth o leiaf 20% o’i gyd-rieni er mwyn ‘herio’ athrawon a llywodraethwyr yr ysgol ac Awdurdod Addysg Lleol Conwy.

Mae’n cyhuddo athrawon yr ysgol o fod yn benderfynol o hyrwyddo’r Gymraeg uwchlaw pob ystyriaeth arall, gan honni bod “cenedlaetholdeb Cymreig ynysig a chibddall” yn teyrnasu yn ystafell yr athrawon.

Mae’n honni bod safonau addysg yng Nghymru’n wael mewn pynciau craidd oherwydd “gor-ddysgu’r Gymraeg i blant o gartrefi Saesneg”.

Ond mae llefarydd ar ran Cyngor Conwy wedi dweud fod Ysgol Glanwydden yn “ysgol dda” sydd â chanlyniadau ymhlith y 25% gorau yn genedlaethol, a bod athrawon a swyddogion o sir Conwy wedi bod yn ymweld â’r ysgol er mwyn gweld enghreifftiau o arfer da wrth addysgu llythrennedd.

Cyfarfod llywodraethwyr

Mae Jacques Protic yn honni bod polisi iaith yr ysgol wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf heb unrhyw ymgynghori â rhieni, ac mae wedi ysgrifennu at Gadeirydd Llywodraethwyr yr Ysgol gan gwyno am strategaeth addysg y prifathro John Jones.

Mae’n awgrymu fod y prifathro, wrth hyrwyddo ‘Treftadaeth Gymreig’ yn amddifadu’r disgyblion o’u “Treftadaeth Brydeinig, sef yn ôl fy ngwybodaeth i, gwir a phrif dreftadaeth y disgyblion o fewn ei ysgol”.

Ac mae’n gofyn i’r llywodraethwyr sut y gellir cyfiawnhau bod holl athrawon “ysgol gyfrwng Saesneg sy’n gwasanaethu cymuned Saesneg ei hiaith” yn athrawon Cymraeg eu hiaith.

Yn y cylchlythyr at rieni, mae Mr Protic yn eu hannog i fynychu cyfarfod blynyddol o’r llywodraethwyr ddydd Mercher 13 Mawrth.

Dywedodd Cyngor Conwy mai dim ond ar ôl ymgynghori’n helaeth yn lleol y byddai modd i ysgol newid ei chyfrwng dysgu o un iaith i’r llall. Byddai angen derbyn cymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol a gwneud cais i’r Gweinidog Addysg cyn newid y categori ieithyddol.