Amanda Hughes, rheolwraig Saith Seren, gyda Paula Hanmer a Geraint Hughes, o Bwtri
Mae dau fusnes Cymraeg wedi dod at ei gilydd i greu menter newydd mewn ty tafarn yn Wrecsam. Fe fydd busnes bwyd Bwtri, o Bwllheli, sydd hefyd yn rhedeg caffi amgueddfa’r dref, yn rhedeg cegin canolfan Gymraeg Saith Seren yn Stryt Caer a chreu bwtri@saithseren.

Yn sgil y cytundeb, fe fydd  bwyd ar gael yn y dafarn boblogaidd unwaith eto o Fawrth y 1af ymlaen.

Dywedodd  Geraint Hughes o Bwtri ei fod wrth ei fodd efo’r newyddion:

“Rydan ni’n awyddus i ehangu’n busnes, sy’n canolbwyntio’n bennaf ar hybu bwydydd Cymreig a chynnig bwyd cartref ffres. Rydan ni’n teimlo fod Saith Seren yn cynnig cyfle newydd i ni yn Wrecsam yn ogystal â’r caffi ac mae’r ethos Gymraeg yn cyd-fynd yn berffaith â beth mae Bwtri yn ceisio’i gyflawni.”

‘Newyddion gwych’

Dywedodd Marc Jones, cadeirydd y fenter cydweithredol sy’n rhedeg Saith Seren, fod y datblygiad yn newyddion gwych i’r Saith Seren.

“Mae Bwtri wedi magu enw da yn lleol ac ar draws y Gogledd eisoes am gynnig bwyd da,” meddai.

“Rydan ni wedi dod i gytundeb efo nhw ac yn edrych ymlaen i weithio efo Geraint a’i staff er mwyn ehangu’r fwydlen yn Saith Seren.

“Rydan ni wedi delio â phroblem draeniau o dan y dafarn, oedd yn gwneud yr ochr fwyd yn anodd iawn y flwyddyn diwethaf, a rwan medrwn symud ymlaen efo’r bartneriaeth newydd yma. Mae pobl yn dangos diddordeb hefyd yn rhentio swyddfeydd a stafelloedd gyfarfod i fyny grisiau yn y ganolfan a byddwn bellach yn medru cynnig bwyd safonol i grwpiau a mudiadau – mi fydd hynny’n fantais fawr.

“Mae Saith Seren eisoes ar agor ers blwyddyn ond mae hyn yn teimlo fel lansiad newydd wrth i ni ehangu’r bwyd a datblygu’r adnoddau ar y llawr cyntaf.”