Deiniolen
Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal heno yn Neiniolen er mwyn trafod adfywio’r pentref a dyfodol llety i’r di-gartref.

Yn ôl y Cynghorydd lleol mae 600 o bobol wedi llofnodi deiseb yn galw am gau llety Noddfa ar ôl i drigolion lleol gael eu hymosod gan breswylydd yn ddiweddar.

“Beth oedd o’n da yma?,” meddai Elfed Wyn Williams

“Does gennym ni ddim yn erbyn pobol ddi-gartra ond mae’r llety yma ers o leiaf 30 mlynedd a does na ddim arall yn dod i’r pentra.

“Mae Cyngor Gwynedd yn gwario mwy ar Noddfa nag ar weddill y pentra.

“Mae’n rhaid i ni gynnal y cyfarfod heno mewn festri capal am nad oes gynnon ni neuadd o gwbl.

“Rydan ni wedi blino ar gael ein sathru,” meddai’r Cynghorydd.

Nid cyfarfod “cwshi”

Bydd y cyfarfod yn cael ei gadeirio gan yr Aelod Cynulliad lleol, Alun Ffred Jones, ac mae disgwyl i gynrychiolwyr o asiantaethau lleol fod yn bresennol yn y cyfarfod.

Dywedodd Elfed Wyn Williams y bydd yn gofyn am farn yr AC.

“Mae cadeirio cyfarfod yn medru bod yn reit cwshi, ond bydda i’n sicr o ofyn iddo beth mae o am wneud i wella’r pentra,” meddai.

Cyfrifoldeb

Mewn ymateb i’r pryderon am lety’r Noddfa dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod “Hostel Noddfa, sydd wedi bod yn eiddo Cyngor Gwynedd ers 1974, yn un o hosteli swyddogol y Cyngor ar gyfer pobl ddigartref.

“Mae cyfrifoldeb statudol ar y Cyngor i ddarparu llety ar gyfer unigolyn neu deulu sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref a thra mae’r Cyngor yn asesu eu hanghenion.

“Mae pob preswylydd wedi eu hasesu yn unol â threfniadau statudol y Cyngor. Disgwylir i bawb ymddwyn mewn ffordd briodol tra’n aros yn Noddfa a bydd y Cyngor yn cymryd camau os na fydd pobol yn parchu’r rheolau a safon ymddygiad.”