Profiadau Non Tudur o’r llifogydd ddoe yn Rhostryfan ger Caernarfon…

Diawch. Am brofiad rhyfedd yw sefyll yng nghanol llifogydd ar sgwâr pentref, yn edrych ar afon na ddylai fod yno yn hyrddio heibio i’ch tŷ.

Diolch i neges ar Facebook am 1.30pm, ro’n i wedi clywed bod dŵr ofnadwy yn llifo am y siop yng nghanol y pentre’, ac i lawr at fy nhŷ i. Bu’n rhaid gadael y ceir lawr ym Dinas, gan fod yr Heddlu yn atal pobol rhag gyrru at y pentref, a martsio am filltir trwy Ros Isa’ a glaw trwm a llynnoedd newydd-eu-creu, a’r dŵr yn cyrraedd at ein pengliniau. Fe aeth o leia’ dau dryc, a sawl four-by-four ar ruthr heibio i ni – a’r un ohonyn nhw yn cynnig lifft. Fe’m synnwyd yn fawr â hynny. Ond rhaid cofio mai rhieni yn pryderu am eu plant yn yr ysgol oedd un neu ddau ohonyn nhw. Wela i ddim bai o gwbl arnyn nhw erbyn hyn, ond mae hi’n stori wahanol pan ry’ch chi’n cerdded mewn jins oer, gwlyb a phedair teiar yn eich gwlychu â dŵr.

Wrth i ni gerdded, ffoniodd rhywun o’r pentref ar ôl addo mynd i gael golwg ar fy nhŷ. Ei eiriau oedd (a pheth anodd ar y naw yw gafael mewn ffôn mewn glaw trwm ynde): “dw i ddim yn gallu cyrraedd at dy dŷ, sori”. Roedd y llif yn rhy gryf. Dyna ni, meddyliais, rhaid wynebu tŷ o dan ddŵr, y cadeiriau a’r bwrdd yn arnofio yn y stafell ffrynt.

Nid felly y bu, diolch byth, er bod llawer o drigolion eraill, yn Llanberis er enghraifft, wedi dod adre’ i’r fath olygfa. Erbyn gweld, roedd lefel y dŵr yn hanner trochi’r wal ffrynt, nant yn llifo yn yr ardd fach, ond ychydig iawn o ddŵr oedd wedi treiddio i mewn i’r tŷ. Rhyfeddol. Mi fydda i yn ddyledus am byth i’r waliwrs oedd wrthi yn Rhos dros ganrif yn ôl.


Y dilyw wrth y drws
Er gofyn a gofyn i’r dynion tân am fagiau tywod, doedd dim yn tycio – rhaid oedd gofyn i’r Cyngor. Trio ffonio, ond yn methu â mynd drwodd. Roedd hi’n anodd gwybod i bwy oedd gofyn. Mi lwyddon ni i siarad â dyn yn y Cyngor tua 5 yr hwyr, ond atebodd yn swta y dylen ni fod wedi eu harchebu ynghynt, gan bod cymaint o alw mewn ardaloedd eraill. Ffonio eto, a gallu ordro bagiau tywod gan ferch glên. Wn i ddim a gyrhaeddodd y rheiny byth; welais i’r un lori Gyngor â bagiau tywod yn y pentref. Roedd eu hangen yn fwy dybryd yn Llanberis, dw i’n amau.

Roedd y dŵr yn dal i raeadru at y tŷ a’r tŷ drws nesa’ o’r lôn a thros erddi’r tai gyferbyn, er bod y glaw wedi pallu ers awr. Roedden ni’n fferru mewn welintyns gwlyb, yn taflu bwcedi o ddŵr o’r ardd drws nesa’, lle’r oedd y dŵr yn ffrydio i mewn ac yn bygwth y seler. Daeth cymydog â darn o bren i greu argae ond roedd yn llif yn rhy gryf.

Daeth rhagor o bobol i helpu ac, o fewn chwinciad, roedd rhes o ddynion yn lluchio dŵr, a darn o bren yn ei le i atal y llif. Fe gariwyd un sach o raean mân i ffwrdd gyda’r llif. Wrth i ni luchio dŵr mi laniodd cynnwys ambell fwcedaid dros four-by-four oedd yn pasio. Wps!


Sylwodd y dynion tân – oedd wedi bod yn sefyllian ar y sgwâr ers tua phedair awr – ar ymdrechion y dynion. Ar ôl siarad ymysg ei gilydd, fe ddiflannon nhw a dod nôl â bagiau tywod! Sut ar y ddaear? Fel petaen nhw wedi sylwi am y tro cyntaf ar y difrod wrth ein ni.

Roedd jac-codi-baw wedi cyrraedd, medden nhw, ac ymhen pum munud, wedi clirio ceuffos dros y ffordd, lle’r oedd y tai wedi eu heffeithio waetha’. Ac fe stopiodd y llif, ar unwaith. Wrth i’r dŵr gilio, sylwodd rhywun fod tarmac y ffordd wedi codi, a dadorchuddio cerrig yr hen lôn drol hardd oddi tano.

Erbyn y bore, wrth gamu dros y mwd, y bag tywod a’r darnau o bren, roedd haul y gaeaf yn tywynnu unwaith eto. Ond profiad rhyfedd ac ysgytwol yw bod yng nghanol llifogydd.

Rhaid canmol y pentref am helpu ei gilydd, ac estyn cydymdeimlad mawr i drigolion Llanberis, a’r holl ardaloedd eraill sydd wedi dioddef.